60

60

Read sample of this book

Chwe deg stori yn dynodi munud oddi fewn i awr rhwng 11.00 y bore a chanol dydd. Yr un yw'r cefndir neu'r lleoliad i bob stori, Stryd Fawr mewn tre fach, nid annhebyg i Aberystwyth. Mae'r digwydd yn perthyn i heddiw ac yn gyfredol iawn.

Fel nofelau a chyfrolau eraill Mihangel Morgan, ceir yma amrywiaeth fyw o gymeriadau gyda llwybrau rhai yn croesi ei gilydd: dynes ddigartref sy’n gofyn a yw’n amser symud ymlaen, Jewe£a a’i henw yn ddatganiad i’r byd o’i gwerth a’i harddwch a Howard a’i chwilen am y Titanic: cyn i’r llong enwog daro’r mynydd iâ, a oedd yna deimlad yn yr awyr fel a geir o flaen trychineb?

Ac, ar ddiwrnod ei ben-blwydd, mae Orig Owen yn cadw apwyntiad yn yr optegydd yn y dre, ac yn boenus o ymwybodol o’r celloedd cancr sy’n cynyddu yn ei gorff. Wrth gyrraedd ei chwedeg dyw e ddim yn siŵr a ydyw erioed wedi deall ei hunan, ac mae’n ffeindio ei hun yn gofyn am y tro cyntaf, pwy wyf i? Stori Orig sy’n dechrau a gorffen y casgliad ar yr awr, cyn y digwyddiad ar y diwedd sy’n uno’r holl gymeriadau.

Fe allai’r bobol hyn fod yn unrhyw un, ar unrhyw stryd, yn byw eu bywydau heb wybod beth sydd o’u blaenau. A hwyrach ei fod yn beth da nad oes yr un ohonom yn gwybod beth a ddaw...

Fideos

Adolygiadau

'Rwyf yn darllen Mihangel Morgan er mwyn cofio beth yw byw’

Sioned Puw Rowlands