Dyma gasgliad o storïau 'hunangofiannol' sy'n troedio'r ffiniau aneglur rhwng ffaith a ffuglen, rhwng atgofion a hunllefau. Gyda phinsiaid o hiwmor a sachaid o arswyd, mae'r awdur yn ein cyflwyno i'w deulu, i'w ffrindiau ac, yn bennaf oll, i'w hen gythreuliaid.
Awn yn ôl i'r ysgol Gatholig ar Tyneside lle dysgodd sut i ladd octopws. Ymwelwn â Miskin Meg, i gael siarad â'i dad yn Uffern. Ym Mogotá, cawn wers hynod am bwysigrwydd yr englyn ar gyfer amddiffyn cyfraith a threfn. Ac yn ôl yng Nghaerdydd, treuliwn hanner awr annisgwyl yng nghwmni un o ddihirod gwaethaf rhyfeloedd y Balcan.
Trwy'r cyfan, gwelwn y plentyn syn dal i grynu y tu mewn i bob un ohomom ‒ a chwerthin am ben ei ymdrechion pitw i gadw'r bwgan draw
224 pp
Dylan Williams
Gomer
Llandysul
Ceredigion SY44 4JL
dylan@gomer.co.uk
www.gomer.co.uk
T +44 (0)1559 362 371
F +44 (0)1559 363 758
UK - Cinnamon