Lladd Duw (Killing God)

yn ôl
Lladd duw

Lladd Duw (Killing God)

Dyma nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia. Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y môr ddychmygol. Mae'n ymdrin â chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, ceir digon o hiwmor ynddi hefyd.

Fideos

Adolygiadau

'Dydi Dewi Prysor ddim yn credu mewn mynd hanner y ffordd. Mae e’n eithafwr llenyddol. Ei athroniaeth yw ‘Popeth neu ddim’. Ac mae ei epig ddiweddaraf yn adlewyrchu ei athroniaeth yn berffaith. Mae hi’n nofel ddu ac yn nofel ddoniol, yn gignoeth ac yn deimladwy, yn gwrs ei hiaith ond eto’n meddu ar ryw brydferthwch anesboniadwy fel harddwch blodau ar wyneb cors ddiwaelod. Ac, yn anad dim, mae hi’n nofel gyffrous.'

Gwales