Milwr Bychan Nesta (The Soldier)

Milwr Bychan Nesta (The Soldier)

Mae bywyd Nesta'n newid pan ddaw o hyd i ddyn yn cysgu ar feranda ei byngalo ar gwr y coed. O hyn ymlaen byddai ganddi rywbeth difyrrach na'r teledu a rhywun a fyddai'n llai o siom iddi na'i theulu.

Ond mae arogl dail Coed Cadno ar y dyn ac mae'n hyderus yn ei her. Wedi'r cwbwl, lloches i faeddod a rhai ar ffo rhag munudau dewr neu wallgof neu lifoleuadau yw Coed Cadno.

Mewn byd cyfarwydd sydd eto'n anghysurus yn ei hanner dieithrwch mae'r awdur yn raddol ddatgelu islais o dyndra ac o ofn, o drais personol ac o rym gwladwriaeth wrth i Nesta a'r dyn glosio'n betrus at ei gilydd. Mae eu perthynas fregus yn esgor ar wefr hen gyffro ac atgof am hen gyfrinachau

Fideos

Adolygiadau

'The author has the ability to write poetically, to use words effectively, and to draw memorable comparisons.'

Barn