O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn

O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn

Mae ail nofel Robin Llywelyn yn wledd i'r sawl a fwynheuodd Seren Wen ar Gefndir Gwyn. Dyma ailddarganfod byd esoterig yr awdur: ieithwedd unigryw, realiti a ffantasi yn gymysg, y ffiniau rhwng daearyddiaeth a'r meddwl yn dir neb, yn anialwch, yn anghyfanedd. Ar ben hynny, dyma flas eto ar hiwmor ac eironi y llenor, a chwrdd a chymeriadau Llywelynaidd megis Petrog Spailpin, Sionyn Troliau, a'r hen wr doeth Dail Coed. Wedi ymgynefino â byd y cymeriadau hyn, gwelwn mai stori draddodiadol sy'n sylfaen i'r llyfr. Mae Gregor Marini wedi colli ei swydd. Mae'n rhoi ei bryd ar ymfudo, a hynny yn anghyfreithlon. Ar ôl canu'n iach ag Alice, ac addo iddi y bydd yn dychwelyd, llwydda Gregor i gyrraedd y ddinas tu hwnt i'r môr. Mewn llyfrgell go arbennig y mae'n cael swydd yn cofnodi rhai miliynau o lyfrau i Adam Laban a'r Du Traheus a chael ei anfon wedyn i'r Gwynfyd pell. Bro heb ei difwyno gan y byd modern yw'r Gwynfyd, ac yno, ar ôl helynt mawr ac afiechyd, mae Gregor yn ymserchu yn Iwerydd. Ond dod mae'r milwyr, ac maes o law fe fydd y Gwynfyd dan ormes y gelyn. Ffoi sydd raid unwaith eto. Ar un olwg, nofel wleidyddol yw O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn sydd yn trafod cenedl fychan yn cael ei difa gan y cawr, a'r brodorion yn gorfod dianc. Ond mae'r cenedlgarwch yn cael ei fynegi ar ffurf alegori, a chan ganolbwyntio ar garwriaeth Gregor ac Iwerydd sydd yn cael eu gwahanu yn greulon cyn cyrraedd Efrog Newydd yn y pen draw.

Fideos