Robert Minhinnick
"Menna Elfyn has discovered how to blend the political with the personal even when writing about a navel ring. Hers is a poetry that reminds us that the world as much as Wales is a fine place and worth fighting for. "
Gwyneth Lewis
"Mae ein dyled yn fawr i Menna Elfyn gan ei bod hi wrthi'n adnewyddu ein Cymraeg trwy ei defnyddio fel offeryn sy'n llwyr atebol i gymhlethdodau bywyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae wedi gosod ffrwydriad wrth droed clogwyn y Gymraeg gan roi defnydd i ni adeiladu hewlydd allan o'r cyfyng-gyngor moesol a gwleidyddol."
Ceridwen Lloyd Morgan
"Mae'n anodd meddwl am unrhyw fardd arall yn y Gymraeg sydd wedi gwneud cymaint â Menna Elfyn i gyfleu a dadansoddi profiadau a theimladau merched ( a phobl o bob math ) yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn ddigyfaddawd ac eto'n dyner."
Am y tro cyntaf ers dros ddegawd y mae un o brif feirdd Cymru, Menna Elfyn, yn cyhoeddi casgliad gwreiddiol o gerddi i oedolion yn Gymraeg yn unig. Yn wahanol, efallai, i rai o gasgliadau'r gorffennol, dyma gerddi personol sy'n bell-gyrhaeddol - maen nhw'n fyfyriol a mewnblyg ac eto'n llwyddo i herio ac aflonyddu.
"Menna Elfyn has discovered how to blend the political with the personal even when writing about a navel ring. Hers is a poetry that reminds us that the world as much as Wales is a fine place and worth fighting for. "
Darllenwch fwy o adolygiadauRobert Minhinnick