Hunangofiant yr awdur yn dianc o bump o wersylloedd i garcharorion rhyfel yn yr Almaen ac fel y bu iddo, yn y diwedd, gyrraedd Sweden cyn dychwelyd i Brydain. Mae’r hunangofiant yn cynnwys profiadau dirdynnol ac emosiynol y milwr o Frithdir, Meirionnydd, John Elwyn Jones, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Addaswyd y llyfr yn ffilm, a ddangoswyd ar S4C yn 1998.
Cyhoeddwyd cyfieithiad Pwyleg o’r hunangofiant yn 2017 - Uciekałem pięć razy.