Si Hei Lwli

Si Hei Lwli

Cyfrol medal ryddiaith Bro Delyn a dderbyniodd ganmoliaeth frwd y beirniaid, yn sôn am ddwy ferch yn cyd-deithio mewn car er bod pellter oes yn eu gwahanu. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ionawr 1991.

Nofel gelfydd am henaint yw Si Hei Lwli. Cawn gwrdd ynddi â Bigw sydd yn naw deg rhywbeth oed ac yn byw yn brudd mewn cartref hen bobl. Nid yw ei theulu yn poeni amdani, a dim ond i Nadolig y mae hi yn cael dod atynt i ginio, a chael amser diflas pryd hynny. Ond mae Eleni eisiau mynd â'i hen fodryb am dro yn y car. Parchu Bigw mae Eleni, a'r hen fyd y mae hi yn ei gynrhychioli. A pham na ddylai'r hen wraig gael gosod blodau ar fedd ei chwaer?

Ffwrdd â nhw ar fyrder felly ar hyd lonydd a ffyrdd Arfon. Taith awr yw hi i'r fynwent, ond siwrnai epig ydyw ar sawl golwg. Mae Bigw eisiau trafaelu ar hyd yr hen lwybrau, ond anodd iawn dod o hyd iddynt. Mae traffyrdd a cylchfannau'r oes wedi gweddnewid y wlad, a'r hyn fu yn arwyddocaol gynt - swyddfa bost, hen ffermdy, lôn gefn - ar gadw yn y cof yn unig. Sut mae cyrraedd man sydd wedi darfod? Sut gall dychwelyd yno fod yn ystyrlon pan mae rhaid defnyddio ffordd ddieithr i gyrraedd pen y daith? Mewn dull tra syml ond hynod o effeithiol, mae Angharad yn trafod dieithrwch Bigw yn y byd sydd ohoni. Nid oes neb o'r sawl a'i carodd ar ôl, a mae'r byd y bu yn perthyn iddo wedi ei ddifetha gan ddatblygiadau'r oes.

Hwyrach nad datganiad gwleidyddol mo Si Hei Lwli yn bennaf, ond mae'r nofel yn trafod annibyniaeth a chaethiwed, a'r hyn sydd yn peri i rai fod heb rym dros eu ffawd eu hunain.

Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg, Twilight Song, a gyfieithiwyd gan Elin ap Hywel, gan Wasg Gomer yn 2004.

Fideos