Y Castell Siwgr

Y Castell Siwgr

Read sample of this book

Nofel hanesyddol a dirdynnol gan yr awdur profiadol Angharad Tomos. Mae'r stori'n mynd â ni i gastell mawreddog Penrhyn, ac i blanhigfeydd echrydus Jamaica, wrth ddilyn hanes dwy ferch ifanc, Dorcas ac Eboni. Dyma nofel sy'n ceisio mynd i'r afael â'r cysylltiad sydd gan Gymru yn y bennod erchyll hon yn hanes dynolryw.

Gwyliwch Angharad Tomos yn siarad am y nofel yma.

Cyrhaeddodd y nofel restr fer gwobrau Tir na n-Og a Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Fideos

Adolygiadau

“O gofio am y gwir anffodus fod hiliaeth yn fyw ac yn iach yn 2020, ac o gofio ein bod ni’n byw yn oes ymgyrchoedd #BywydauDuoBwys, mae Y Castell Siwgr yn nofel eithriadol amserol. Yn ddiau, credaf y bydd y nofel hon yn lladmerydd arbennig a chwbl deilwng i hyrwyddo addysg ‘newydd’ am hiliaeth, caethwasiaeth, a chysylltiad y ddeubeth â’r Cymry. Dylai’r nofel gael ei darllen yn ofalus ac yn fanwl, a’i rhannu ymysg cynulleidfa eang iawn. […] Heb os, dyma nofel gignoeth o gredadwy, sy’n llwyddo i adrodd stori hanesyddol sydd mor amserol ag erioed."

Gareth Evans-Jones, Gwales.com