Yn y Tŷ Hwn (In This House)

Yn y Tŷ Hwn (In This House)

Bu Anna'n gaeth i'w thŷ am wythnosau a'i choes mewn plastar. Wrth i ni dreulio amser yn ei chwmni yn Nant yr Aur fe ddaw'n amlwg fod y tŷ wedi ei chaethiwo ers degawdau. Erbyn iddi gryfhau digon i allu cerdded heb ffyn baglau, mae ei gorffennol wedi newid yn llwyr. Yn ogystal â bod yn folawd i fan a lle, mae'r nofel delynegol hon yn ymdrin â chymhlethdod emosiynol cwlwm perthyn. Pencampwraig y dweud cynnil yw Sian Northey, y math o ddweud sy'n cyfleu cymaint mwy na'r geiriau sydd ar y tudalen. Dyma awdur sy'n dilyn yr egwyddor werdd i'r llythyren drwy beidio ag afradloni geiriau.

Fideos

Adolygiadau

"Y mae’r nofel fer hynod hon yn ymwneud â cholled a galar ond nid nofel drist mohoni.

Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan awdures llên ficro, mae’r dweud yn hynod gynnil yn y nofel hon. Mae’r stori yn symud yn chwim, a byr iawn ydy’r penodau. Dyma awdur sy’n parchu’i darllenydd ac sy’n fwy na pharod i awgrymu yn hytrach na dweud.

Dyma nofel i’w mwynhau’n hamddenol a chael cyfle i dreulio amser yng nghwmni gwraig ddifyr iawn sydd, ar waethaf ei gorffennol, yn mwynhau gwneud y pethau bychain am mai dyna ydy cyfrinach byw ar eich pen eich hun, yn ôl Anna."

Janet Roberts, Gwales