Zoology

Zoology

Yn y casgliad newydd hwn, mae cyn Bardd Cenedlaethol Cymru unwaith eto yn dangos ei meistrolaeth gyflawn o’i chyfrwng. Mae’r detholiad hael hwn o gerddi cyfoethog wedi eu gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru, gan gynnig safbwyntiau byd-eang ar fywyd, ar berthynas pobl â natur mewn byd sy’n newid, ac ar bresenoldeb parhaus y gorffennol. Wedi eu grwpio’n ofalus, gellid darllen y cerddi hyn yn unigol, ond mae iddynt haenau pellach o ystyr wrth iddynt ryngweithio â’i gilydd.

Drwy ddefnyddio atgofion personol yn ogystal â hanes lleol a chenedlaethol, mae hi’n myfyrio ar batrymau cylchol geni, cenhedlu a marw. Mae hi hefyd yn dathlu ysgrifenwyr o’r gorffennol y mae eu gwaith wedi gadael ei ôl ar ein hiaith a’n hymwybyddiaeth, ac mewn cyfres o farwnadau meddylgar mae hi’n atgyfodi beirdd annwyl yn ôl yn fyw.
Mae’r cerddi hyn yn cyfoethogi bywyd, ac yn dangos Gillian Clarke ar ei gorau.

Fideos

Adolygiadau

'Gillian Clarke is one of the most widely respected and deeply loved poets in the world.'

Carol Ann Duffy, Poet Laureate