Stevie Davies

Stevie Davies

Ewch i'r Wefan
 Stevie Davies

Mae Stevie Davies yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ei thref enedigol. Mae'n Gymrawd y Royal Society of Literature a Chymrawd yr Academi Gymreig. Cyhoeddodd yn helaeth ym maes ffuglen, beirniadaeth, bywgraffiad a hanes poblogaidd. Cyfrannodd hefyd at astudiaethau Milton a radicaliaid yr ail ganrif ar bymtheg, Donne, Henry Vaughan, Emily Brontë a Virginia Woolf.

Enillodd ei nofel gyntaf, Boy Blue, wobr y Fawcett Society yn 1987. Cyhoeddodd wedi hynny ddeg nofel. Cafodd The Web of Belonging (1997) ei dewis ar gyfer rhestr fer gwobr Portico a hefyd enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn. Cafodd ei haddasu ar gyfer Radio 4 yn 2004, gan Alan Plater, gyda Brenda Blethyn, Kevin Whately ac Anna Massive yn actio. Mae Stevie hefyd wedi addasu'r nofel ar gyfer Radio 4. Cafodd The Element of Water (2001) ei dewis ar gyfer rhestr hir gwobr y Booker ac Orange, ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn. Cafodd ei haddasu fel drama ar gyfer Radio 4 Saturday Play. Kith & Kin ddaeth wedyn a bu ar restr fer gwobr Orange. Mae'n cael ei haddasu'n ffilm gan sgriptwraig 'The Producers', Sandra Goldbacher.

Yn 2010, cyhoeddodd Into Suez (Parthian, 2010), nofel wedi ei gosod yn y cyfnod yn arwain at argyfwng Suez yn 1956. Yn 2016, detholwyd ei nofela, Equivocator (Parthian, 2016) i Silff Lyfrau 2016 -2017 Y Gyfnewidfa.

Dewiswyd ei nofel ddiweddaraf, The Party Wall (Honno, 2020), i'n Silff Lyfrau 2020–21. Gwyliwch Stevie yn trafod ac yn darllen darn o'r nofel yma.

Silff Lyfrau

Fideos

Cynnwys Cysylltiedig