Ymbelydredd (Radiation)

Ymbelydredd (Radiation)

Read sample of this book

Beth sy'n digwydd pan fo'n rhaid i wr ifanc o dref fach yng Ngwynedd dreulio chwe wythnos ym Manceinion ar gyfer cwrs o radiotherapi? Cawn yn y nofel hon ddarlun o fywyd trwy lygaid claf rhif 24609-3740. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016. Enillodd y nofel Wobr Barn y Bobl Golwg360 yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2017.

Fideos

Adolygiadau

'Nofel arbennig iawn gan awdur talentog, medrus. Mae’r disgrifiadau o’r therapi’n taro deuddeg yn ddi-ffael – yn boenus felly. Mae yma ysgrifennu godidog drwy gydol y nofel, a chefais fy swyno gan y darnau bychain a ddaw rhwng y penodau hynny sydd wedi eu gosod ym Manceinion a’r ysbyty. Mae hon yn nofel wych, ac mae’r awdur i’w ganmol, nid lleiaf oherwydd iddo lwyddo i osgoi unrhyw sentimentalrwydd a fuasai wedi baglu nifer o awduron llai medrus. Ac mae’r frawddeg olaf un yn ysgytwol o annisgwyl.'

Gareth F Williams