Cyfryngau

Cymerwch olwg ar ein galeri am ddelweddau o blith rhai o'n gweithgareddau mwyaf diweddar ac i weld y Cardiau Post rydym wedi derbyn. Mae'r adran Ffilm yn cynnwys ein harchif o ffilmiau a grëwyd gan Sara Penrhyn Jones, sy'n enillydd gwobr BAFTA ac yn gyn aelod o dîm y Gyfnewidfa. Yn fwy diweddar, mae gennym fideos wedi eu creu gan awduron, a recordiwyd yn ystod cyfnod y clo (Gwanwyn/Haf 2020). Byddwn yn parhau â’r gyfres drwy ychwanegu fideos gan awduron cyfoes Cymreig a ddewiswyd i’n Silff Lyfrau, a gyhoeddir yn Ffair Lyfrau Frankfurt ym mis Hydref 2020.

Byddwn hefyd yn ychwnaegu cynnwys newydd at ein sianel ar AM Cymru.