Darllen Y Dolig: Sesiwn Adfent AmGen

Darllen Y Dolig: Sesiwn Adfent AmGen

Yn dilyn ein sesiwn ‘Darllen y Byd’ fel rhan o raglen Eisteddfod AmGen yn yr Haf, trefnodd y Gyfnewidfa Lên sesiwn arbennig ‘Darllen y Dolig’ ar gyfer rhaglen Adfent AmGen, gan ddod â phanel o ddarllenwyr o ieithoedd eraill a chyhoeddwyr Cymraeg ynghyd i drafod llyfrau Nadoligaidd i blant o Gymru a’r byd.

Ar y panel:

Lefi Gruffudd o’r Lolfa,
Myrddin ap Dafydd, yr Archdderwydd, o Wasg Carreg Gwalch,
Marta Listewnik, academydd a chyfieithydd llenyddol, sydd newydd gyfieithu Llyfr Glas Nebo i’r Pwyleg
Marion Loeffler academydd a darllenwraig frwd,
Sian Melangell Dafydd, awdur bardd a chyfieithydd, sydd a’i nofel ddiweddaraf ‘Filo’ ar Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru eleni
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol y Drindod Dewi Sant a Cari Lake o’r Gyfnewidfa Lên.

Daw’r sesiynau yma yn dilyn ein hadroddiad, Rhyngwladoli Profiadau Darllen Plant a Phobl Ifanc yn Gymraeg, sydd nawr ar gael i bori ar ein gwefan. Pwrpas yr adroddiad a’r sesiynau yma oedd i chanfod cyfleoedd i gyhoeddwyr Cymru darganfod teitlau o ieithoedd heblaw Saesneg i’w cyfieithu ac rydym yn gobeithio daw sawl prosiect cyfieithu o ganlyniad i’r gwaith a chyd-weithrediad yma rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyngor Llyfrau Cymru o dan nawdd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.

Cyfnewid Anrhegion

Darllen y Dolig: Llyfrau Nadolig o Gymru a’r byd Sgwrs rhwng darllenwyr, cyfieithwyr, cyhoeddwyr ac…Cyfnewid Anrhegion