Gweithdy Cyfieithu Barddoniaeth gyda Golan Haji a Samira Negrouche

Gweithdy Cyfieithu Barddoniaeth gyda Golan Haji a Samira Negrouche

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2019, cynhaliwyd diwrnod cyfieithu llenyddol arbennig gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Wales PEN Cymru yn Aberystwyth ar ddydd Sul, 8fed o Fedi.

Croesawom ddau awdur nodedig – sef Golan Haji, bardd a chyfieithydd Cwrdaidd-Syriaidd a Samira Negrouche, bardd ac awdur Ffrangeg o Algeria – a'u cyflwyno mewn seminar gyhoeddus am eu gwaith yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth.

Dilynwyd hyn gan weithdai cyfieithu yn canolbwyntio ar un neu ddwy o’u cerddi. Clowyd y diwrnod gyda thrafodaeth ar gyfer cyfieithwyr (a’r sawl sydd â diddordeb yn y grefft o gyfieithu) ar sut y gellir cefnogi gwaith cyfieithwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Arweiniwyd y gweithdai gan Mererid Hopwood a Zoë Skoulding.