Angharad Price yn Ffair Lyfrau Leipzig

Angharad Price yn Ffair Lyfrau Leipzig

04 Mawrth 2016

Angharad Price 2

Bydd ffair lyfrau Leipzig yn digwydd rhwng y 17eg a’r 20fed o Fawrth eleni. Ar brynhawn cyntaf y ffair yn Neuadd 4, E 401, am 1 o’r gloch, bydd Cymdeithas Awduron Ewropeaidd yn cynnal digwyddiad lle bydd modd cael blas o waith T. H. Parry-Williams ymysg awduron eraill y mae eu gwaith wedi ymddangos ar Finnegan’s List. Mae Finnegan’s List yn rhestr o lyfrau nad ydynt wedi cael sylw haeddiannol yn rhyngwladol neu heb eu cyfieithu’n ddigonol. Yn 2014, cafodd Angharad Price ei dewis i fod ar y panel o 10 a fyddai’n dewis y rhestr y flwyddyn honno, ac un o’r cyfrolau a ddewisodd oedd Casgliad o Ysgrifau gan T. H. Parry-Williams.

Gyda’r nos ar y 17eg o Fawrth, am 8 o’r gloch, yn UT Connewitz, bydd Angharad yn cymryd rhan mewn panel trafod. Mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook y digwyddiad.