Christopher Meredith yn ennill ysgoloriaeth ryngwladol

Christopher Meredith yn ennill ysgoloriaeth ryngwladol

15 Hydref 2012

Mae'r bardd a'r nofelydd Christopher Meredith wedi ennill ysgoloriaeth ryngwladol Tŷ Cyfieithu Cymru / HALMA ar gyfer 2012/2013. Bydd yn treulio dau gyfnod preswyl yn gweithio dramor, gyda chefnogaeth rhwydwaith HALMA o ganolfannau a thai llenyddol - y cyntaf yn y Ffindir ar ddiwedd mis Hydref a'r ail yn Slofenia yn y flwyddyn newydd.

Mae'r ysgoloriaeth yn deillio o aeolodaeth Tŷ Cyfieithu Cymru o HALMA, rhwydwaith sy'n cysylltu ac yn cydlynu 27 o ganolfanau llenyddiaeth a chyfieithu ar draws Ewrop. Byd Christopher yn treulio'r preswyliad cyntaf mewn tŷ art nouveau pren yn Jyväskylä yng ngogledd y Ffindir cyn teithio i Novo Mesto yn Slofenia ym mis Ionawr ar gyfer yr ail breswyliad lle bydd yn cael ei gefnogi gan dŷ cyhoeddi Goga.

Mae Christopher Meredith wedi ennill nifer o wobrau am ei waith, gan gynnwys Gwobr Eric Gregory, Gwobr Awdur Ifanc Cyngor y Celfyddydau a Gwobr Ffuglen am ei nofel gyntaf, Shifts. Cyhoeddwyd ei bedwaredd nofel, The Book of Idiots, eleni gan wasg Seren ac mae wedi cael ei ddewis gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2012.

Cafodd Chris ei eni a'i fagu yn Nhredegar a bu'n weithiwr dur ac athro ysgol cyn dod yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth, pedair nofel ac mae hefyd yn gyfieithydd llenyddol.

Dywed Chris: "Mae ennill ysgoloriaeth HALMA yn anrhydedd mawr, ond yn llawer mwy na hynny mae'n gyfle i mi i ddysgu ac i dyfu fel awdur. Rwyf yn bwriadu gweithio ar farddoniaeth a ffuglen sydd â'u seiliau'n gadarn yn f’ardal, ond hefyd gyda beth bynnag fydd yn codi’n o’m mhrofiadau yn y ddwy wlad."

Mae Christopher yn byw yn Aberhonddu bellach ac un o'i brosiectau diweddar oedd cyfres o gerddi a gomisiynwyd am y mawn sy'n erydu ar y Mynydd Du uwchlaw, hynny fel rhan o arddangosfa Bog-Mawnog. Mae'n gobeithio treulio amser yn datblygu'r gwaith hwn ymhellach ar gyfer cyhoeddi yn ystod ei breswylfeydd tramor.

Wrth siarad ar ran Tŷ Cyfieithu Cymru, dywed Sioned Puw Rowlands: "Mae rhoi cyfle i awduron weithio mewn cyd-destun diwyllianol gwahanol yn gallu bod yn werthfawr iawn. Mae'n gorfodi awdur i edrych ar ei waith mewn ffordd wahanol. Mae preswyliadau i awduron o dramor yng Nghymru a chyfleoedd i awduron Cymru dreulio cyfnodau dramor, yn rhan o weledigaeth Tŷ Cyfieithu Cymru, a gafodd ei sefydlu pan ddaeth Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Newydd ynghyd i ffurfio partneriaeth yn 2009. Mae enillwyr blaenorol yr ysgoloriaeth yn cynnwys Siân Melangell Dafydd a Tristan Hughes. "

Yn ddiweddarach eleni, bydd Tŷ Cyfieithu Cymru yn croesawu bardd o'r Ffindir, Harry Salmenniemi, i Dŷ Newydd, Y Ganolfan 'Ysgrifennu Genedlaethol, hefyd fel rhan o'r rhaglen HALMA.

Cefnogir y rhaglen ysgoloriaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.