“Does dim fel cwestiynau cyfieithydd craff i wneud i rywun sylweddoli nad yw’r ystyr a fwriadwyd a’r ystyr a argraffwyd yr un peth bob amser!”

  • Cartref>
  • Newyddion a Digwyddiadau >
  • “Does dim fel cwestiynau cyfieithydd craff i wneud i rywun sylweddoli nad yw’r ystyr a fwriadwyd a’r ystyr a argraffwyd yr un peth bob amser!”

“Does dim fel cwestiynau cyfieithydd craff i wneud i rywun sylweddoli nad yw’r ystyr a fwriadwyd a’r ystyr a argraffwyd yr un peth bob amser!”

10 Mawrth 2015

Llyr Gwyn Lewis a Sioned Puw Rowlands

Ym mis Ionawr 2015 ymunodd Llŷr Gwyn Lewis â chyfieithwyr o wlad Belg, Ffrainc, Tseina ar Weriniaeth Tsiec ar gyfer preswyliad Schwob a drefnwyd gan y Gyfnewidfa Lên lle canolbwyntiwyd ar gyfieithu clasuron modern Cymreig.

Profiad arbennig oedd cael ymweld â phreswyliad cyfieithwyr Schwob yn nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd eleni, lle cefais gyfle i gwrdd â nifer o feirdd-gyfieithwyr, yn ogystal â threulio prynhawn yng nghwmni’r cyfieithydd caboledig Marie-Thérèse Castay yn gweithio ar y cyfieithiad Ffrangeg o’m cyfrol, Rhyw Flodau Rhyfel.

Roedd gweld y gofal a roesai Marie-Thérèse i bob geiryn o’r gwaith yn agoriad llygad i gyw awdur fel finnau. Mynnodd fy mod innau, hefyd, yn bwrw golwg agos dros y cyfan, er mai digon prin yw fy Ffrangeg, ond roeddwn wedi gweld ar ôl ychydig dudalennau fod y gyfrol mewn dwylo hynod ddiogel. Dau beth sy’n sicr: roedd fy Ffrangeg dipyn yn helaethach erbyn amser swper, ac roeddwn wedi ymdynghedu hefyd i roi llawer rhagor o sylw i bob gair pe bawn yn mynd ati i sgrifennu nofel eto. Does dim fel cwestiynau cyfieithydd craff i wneud i rywun sylweddoli nad yw’r ystyr a fwriadwyd a’r ystyr a argraffwyd yr un peth bob amser!

Efallai mai uchafbwynt y diwrnod oedd treulio amser ar ôl swper y noson honno yn darllen rhywfaint o’m cerddi yn Gymraeg i’r cwmni, ac yn gwrando arnynt hwythau yn darllen o’u gwaith. Y noson honno cawsom glywed cerddi yn Saesneg, Mandarin, Iseldireg a Tsiec. Pan fyddwch chi’n clywed cyfieithiad mewn iaith anghyfarwydd, ond yn gallu adnabod y gerdd yn syth, mae’n rhaid ei fod yn dipyn o gyfieithiad. Dyna’n union fy mhrofiad innau wrth wrando ar Katelijne de Vuyst yn darllen ei chyfieithiad i’r Iseldireg o In my craft or sullen art Dylan Thomas. Ac roedd gwrando ar gerddi ffraeth a chyfoes Tomáš Míka eto’n hwb ac yn her i ninnau yng Nghymru sicrhau ein bod yn chwilio o hyd am ffyrdd newydd a gwahanol o fynegiant.

Yn y llun: Llŷr Gwyn Lewis a Chyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, Sioned Puw Rowlands yn Nhŷ Newydd.