Owen Martell i ymddangos yng Ngŵyl Lenyddol Bookworm, Tseina

Owen Martell i ymddangos yng Ngŵyl Lenyddol Bookworm, Tseina

23 Chwefror 2016

Owen Martell Photo by Em Jenkins

Fel un o'r llyfrau a ddewiswyd ar gyfer Silff Lyfrau 2013, mae nofel Owen Martell, Intermission, eisoes wedi cael ei chyfieithu i’r Almaeneg a’r Ffrangeg, a bellach mae hi ar gael yn y Sbaeneg hefyd. Cyfieithiad Jorge Fondebrider yw Intervalo, a gyhoeddwyd gan wasg LOM Ediciones yn Tsile.

Ym mis Mawrth eleni, bydd Owen Martell yn teithio i Tseina er mwyn cymryd rhan yng ngŵyl lenyddol Bookworm a gynhelir ar draws dinasoedd Beijing, Chengdu a Suzhou, yn ogystal ag ambell ddinas arall yn Tseina. Eleni yw’r 10fed flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal a bydd oddeutu 180 o awduron, athronwyr a pherfformwyr o bob cwr o’r byd yn ymddangos yno rhwng yr 11eg a’r 27ain o Fawrth er mwyn cynnal gweithdai a digwyddiadau.

Bydd Owen yn cymryd rhan mewn paneli trafod, ac yn ymweld ag ysgolion a phrifysgolion. Bydd yn rhan o banel trafod gyda nofelydd o Siapan a bardd o Hong Kong a fydd yn trafod y syniad o ysgrifennu am le penodol. Bydd hefyd yn rhan o banel trafod arall gyda'r awduron Ewropeaidd, Jordi Punti o Gatalonia, Nora Wagener o Lwcsemwrg, ac enillydd yr European Union Literature Prize, Undine Radzeviciute o Lithwania.

Trefnir taith Owen Martell i Tseina a Macau gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fel rhan o brosiect Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw, a’i chefnogi gan brosiect yr Undeb Ewropeaidd, Ewrop Greadigol, a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.