Beirdd o Gymru yn cymryd rhan yng ngweithdy Poetry Connections yn yr India

Beirdd o Gymru yn cymryd rhan yng ngweithdy Poetry Connections yn yr India

20 Ionawr 2015

India 2015

Fe fydd y beirdd Siân Melangell Dafydd a David Greenslade yn cymryd rhan yng ngweithdy Poetry Connections yn yr India rhwng Ionawr 19 – 30 2015. Cydlynir y gweithdy gan ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

Mae Poetry Connections yn gyfres o brosiectau sy’n dod a beirdd o Ewrop ac India ynghyd er mwyn archwylio gwaith ei gilydd drwy gyfieithiad i greu perfformiad barddoniaeth amlgyfrwng. Cynhelir y gweithdy yn Hyderabad, tra bydd y perfformiadau i’w gweld yng Ngwyl Lenyddol Hyderabad, Llyfrgell Brydeinig Bangalore a Chanolfan Ryngwladol India, Delhi.

Fe fydd y beirdd Miguel Manso (Portiwgal) Heike Fiedler (Swistir), Tsead Bruinja (Yr Iseldiroedd), Sampurna Chattarji a Mamta Sagar (India) hefyd yn cymryd rhan. Arweinir y gweithdy gan Alexandra Büchler (Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau).

Cefnogir y prosiect gan Sefydliad Camoes, Sefydliad Douwe Kalma, Sefydliad Llenyddiaeth yr Iseldiroedd, Pro Helvetia – Cyngor Celfyddydau’r Swistir a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Dechreuodd project Poetry Connections nol yn 2010. I ddarganfod mwy a gwylio ffilm fer ynglŷn a’r gweithdy ewch i wefan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yma.

Digwyddiadau Poetry Connections

  • Perfformiad yng Ngwyl Lenyddol Hyderabad Dydd Sadwrn, 24 Ionawr, 4pm, dilynir gan Ddarlleniad Barddoniaeth Ewropeaidd, 5pm;
  • Perfformiad yn Llyfrgell Brydeinig, Bangalore Dydd Sul, 25 Ionawr, 6pm;
  • Perfformiad yng Nghanolfan Ryngwladol India, Delhi Dydd Mercher, 28 Ionawr, 6.30pm Ystafell Seminar I i III, Cyfadeilad Kamaladevi