Preswyliadau Ionawr 2014

Preswyliadau Ionawr 2014

09 Tachwedd 2013

Byddwn yn croesawu awduron o dramor a chyfieithwyr i Dŷ Newydd yn Ionawr 2014 fel rhan o'n rhaglen breswyliadau Tŷ Cyfieithu Cymru. Bydd y pwyslais eleni ar gyfieithu clasuron. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw'r 25ain o Dachwedd, 2013. Ceir mwy o fanylion isod. Gellir cysylltu â Sioned Puw Rowlands am fwy o wybodaeth trwy'r ebost sioned@cyfnewidfalen.org