Rhifyn Cymraeg y cylchgrawn cyfieithu llenyddol, Words without Borders.

Rhifyn Cymraeg y cylchgrawn cyfieithu llenyddol, Words without Borders.

05 Awst 2019

Words Without Borders

Cyhoeddir y rhifyn Cymraeg gyntaf o Words without Borders, cylchgrawn ar-lein sydd yn arddangos llenyddiaeth wedi’i gyfieithu o ieithoedd eraill.

Cyflwynir y rhifyn gyda rhagarweiniad gan Casi Dylan, gyda’r teitl “Reimagined Communities: An Introduction to Welsh Writing”. Roedd gwaith pum awdur wedi’u cynnwys yn y rhifyn, sef detholiad o Lyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros; stori fer “Y Gwreiddyn” o’r gyfrol ar un enw gan Caryl Lewi; pennod o nofel Fflur Dafydd, Y Llyfrgell; casgliad o lythyrau Dolores Morgan o gyfrol Llŷr Gwyn Lewis, Fabula; ac agoriad nofel newydd – heb ei gyhoeddi eto – Llwyd Owen o'r enw Iaith y Nefoedd.

Cyfieithwyd "Y Gwreiddyn" gan George Jones, a'r casgliad o lythyrau o Fabula gan Katie Gramich. Cafwyd y detholiadau eraill i gyd eu cyfieithu gan yr awduron eu hun.


Casglir y gwaith a’r cyfieithiadau gan aelodau'r Gyfnewidfa Lên.

Darllenwch y rhifyn yma.