Cyfieithu clasuron Cymru yn Nhŷ Newydd

Cyfieithu clasuron Cymru yn Nhŷ Newydd

08 Ionawr 2014

Schwob

Wrth groesawu’r flwyddyn newydd, braf hefyd yw croesawu pump o awduron a chyfieithwyr tramor i Dŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol fel rhan o brosiect Schwob a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Emilia Ivancu, Jaume Subirana, a Yuvan ill tri yn gweithio ar gyfieithu cerddi R. S. Thomas i’r Rwmaneg, i’r Gatalaneg a Thamil. Bydd Yuvan, sy’n fardd a chyfieithydd o Chennai, hefyd yn gweithio ar gyfieithiadau o waith Dylan Thomas ar gyfer eu cyhoeddi gan wasg Kalachuvadu. Bydd Marta Klonowska yn canolbwyntio ar gyfieithu Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard i’r Bwyleg a’r Athro Wolfgang Schamoni yn cyfieithu gwaith Kate Roberts i’r Almaeneg.

Yn ystod eu cyfnod preswyl rhwng Ionawr 7fed – 21ain 2014, fe fydd yr awduron a chyfieithwyr yn cael cyfle i drafod eu clasuron gydag ysgolheigion ac arbenigwyr, ymweld â lleoliadau o bwysigrwydd i’r gweithiau y maent yn eu cyfieithu, yn ogystal â chael cyfle i ddod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru yn well.

Lansiwyd Schwob yn yr Iseldiroedd yn 2011 i hwyluso'r gwaith o hyrwyddo cyfieithu a chyhoeddi goreuon llenyddiaeth dramor yno. Yn 2013, derbyniodd y prosiect gefnogaeth ariannol fel rhan o Raglen Ddiwylliant yr UE er mwyn ehangu yn rhwydwaith ryngwladol. Mae Schwob bellach yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau llenyddiaeth mewn chwe gwlad, gan gynnwys Cymru drwy Gyfnewidfa Lên Cymru, i dynnu sylw at "glasuron modern eithriadol, sy'n anodd eu canfod, sy'n hogi'r awydd am fwy".

Gellir ymweld â gwefan Schwob yma