15 Rhagfyr 2021
Ddechrau mis Rhagfyr, bu cynrychiolwyr o weisg Seren a Parthian yng Ngwlad y Basg, gyda'r cyhoeddwyr Peter Owen, Comma Press, MacLehose Press a'r newyddiadurwraig Maya Jaggi er mwyn cael cipolwg ar farchnad lyfrau a diwylliant llenyddol y wlad. Trefnwyd yr ymweliad gan ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, a'u croesawu gan Sefydliad Etxepare Institute.
Fis Mehefin, derbyniodd Mick Felton o wasg Seren wedi Cymrodoriaeth Cyhoeddwyr Schwob.
Fel rhan o’r gymrodoriaeth bu Mick Felton ym Marcelona fis Mehefin i gyfarfod gyda 8 cyhoeddwr, Metis (Twrci), Diogenes (Swistir), Fayard (Ffrainc), Lebowski (Yr Iseldiroedd), WSOY (Ffindir), Polirom (Rwmania), Foksal Publishing Group (Gwlad Pwyl), Elliot edizioni (Yr Eidal), i drafod clasuron modern Ewropeaidd sydd eto i’w cyfieithu’n eang, yn cynnwys cyfrolau o Gymru.
Yn ystod y cyfarfodydd bu Schwob yn hyrwyddo cyfrolau o ddiddordeb, darparu gwybodaeth am hawliau cyfieithu a chynnig cyngor ar gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn cynnwys grantiau cyfieithu.
Darllenwch gerdyn post Mick Felton o Farcelona yma.
Darganfyddwch mwy am Schwob yma.
Darganfyddwch mwy am Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yma.