Ffair Lyfrau Abu Dhabi 2012

Bydd Y Gyfnewidfa Lên yn cael ei chynrychioli gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LAF) yn Ffair Lyfrau Abu Dhabi (28ain o Fawrth - 2il o Ebrill).

Bydd Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn mynychu'r ffair eto eleni, gan barhau gwaith y rhwydwaith yn cysylltu bydoedd llenyddol Ewrop a'r byd Arabaidd. Bydd LAF yn darparu cyhoeddwyr a chyfieithwyr gyda gwybodaeth am lyfrau o Ewrop ac yn cynrychioli gwaith ein partneriaid. Bydd Cyfarwyddwr LAF, Alexandra Büchler hefyd yn cadeirio trafodaeth banel ar lyfrau comics a nofelau graffig: The Rise of the Image, ar ddydd Gwener y 30ain o Fawrth.

The Rise of the Image: why comics and graphic novels are rising in popularity

Dydd Gwener, 30ain o Fawrth 2012
17:00 – 18:15
Capital Suite 18

Trefnir y digwyddiad mewn cydweithrediad â Pro Helvetia, ac mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn Arabeg a Saesneg.

Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LAF) yn cadeirio, gyda Khalil Bendib, darlunydd, Daniel Bosshart, darlunydd ac awdur, Christophe Badoux, darlunydd ac awdur.

 

 

Y Diweddaraf