Alys Conran appears at the Prozas lasijumi Festival, Latvia

Alys Conran yn darllen yng Ngwyl Prozas lasijumi, Latfia

12 Rhagfyr 2017

Alys yn Latvia

Ymddangosodd yr awdur a’r bardd Alys Conran yng Ngŵyl Prozas lasijumi, Riga, Latfia dros y penwythnos. Mae’r ŵyl, a gynhelir yn flynyddol ar ddechrau mis Rhagfyr, yn nodi pen-blwydd yr awdur Andreja Upīša. Yn ystod yr ŵyl gwahoddwyd awduron o Latfia ac o wledydd eraill Ewrop yn cynnwys Gwlad yr Ia, Croatia a'r Alban i gyflwyno a darllen eu gwaith.

I nodi ymddangosiad Alys Conran yn yr ŵyl, cyhoeddodd y gwe-gylchgrawn llenyddol Punctum gyfieithiad Latfeg gan Lauris Veips, o’i stori fer, Lobster.

Bu 2017 yn flwyddyn fawr i’r awdur, gyda’i nofel gyntaf Pigeon yn ymddangos ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, yn ogystal â chipio prif wobr Llyfr y Flwyddyn 2017 (Saseneg).

Dyma ail daith yr awdur i Latfia. Ym mis Medi 2016, bu'r awdur, ynghyd ac Alys Conran yn cymryd rhan mewn Gweithdy Cyfieithu Barddoniaeth Ryngwladol a drefnwyd gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn ogytsal a'r Latvian Literature, mewn cydweithrediad a chylchgronau Poetry Wales a Wolf Magazine.

Trefnwyd y gweithdy fel rhan o baratoadau Latfia ar gyfer Ffair Lyfrau Llundain yn 2018 ble bydd y wlad, ynghyd a'i chymdogion yn ardal y Baltig, yn wledydd gwadd.