Angharad Price yn ymddangos yn Niwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014

Angharad Price yn ymddangos yn Niwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014

25 Medi 2014

Angharad Price 2

Fe fydd Angharad Price ymysg siaradwyr yn Niwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014 ddydd Gwener, Medi’r 26ain 2014 yn y Llyfrgell Brydeinig, Llundain.

Enillodd Angharad Price Fedal Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2003 gyda’i nofel, O! Tyn y Gorchudd. Yn 2010 cyfieithwyd y gyfrol i’r Saesneg gan Lloyd Jones. Yn 2014, ymddangosodd Rebeka jones er katha, cyfieithiad Bengali gan Sunandan Roy Chowdhury, a Oh, ridica valul, cyfieithiad Romaneg gan Emilia Ivancu o’r gyfrol.

Mewn seminar dan y teitl, Migrating Languages, fe fydd Angharad Price yn trafod gyda Darach Ó Scolaí, awdur, cyfieithydd a chyhoeddwyr Gwyddeleg, Valerie Bloom, awdur a bardd pherfformiwr sy’n defnyddio iaith ei gwlad gyntaf, Jamaica, i gysylltu gyda phobl ifanc yn Llundain, a Balraj Khanna, awdur Indian Magic! nofel sy’n ymdrin â ymgyfarfyddiad yr hen Lundain a’r Llundain newydd a’i gilydd. Cadeirir y drafodaeth gan Amanda Hopkinson, Athro mewn Cyfieithu Llenyddol yn City University.

Digwyddiad blynyddol ar gyfer y gymuned gyfieithu yw symposiwm Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu. Mae’n gyfle i gyfieithwyr, myfyrwyr, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgellwyr, blogwyr ac adolygwyr i ddod ynghyd a thrafod materion a datblygiadau arwyddocaol o fewn y sector, trafod heriau a dathlu llwyddiant.

Cyflwynir y diwrnod gan Free Word, English PEN a’r Llyfrgell Brydeinig mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Brydeinig ar gyfer Cyfieithu Llenyddol (BCLT), Cymdeithas y Cyfieithwyr, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru.

Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2014, 26 Medi 2014, 9:00yb – 5:00yh Y Llyfrgell Brydeinig, NW1 2DB

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad bellach ar werth ar wefan y Llyfrgell Brydeinig.