Angharad Tomos yn fuddugol yn Her Gyfieithu 2012

Angharad Tomos yn fuddugol yn Her Gyfieithu 2012

14 Awst 2012

Angharad Tomos

Y nofelydd Angharad Tomos yw enillydd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru 2012. Mewn seremoni arbennig ym Mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 derbyniodd Angharad Ffon y Pencerdd gan y Gweinidog Cyllid a'r Aelod Cynulliad lleol, Jane Hutt.

Yn ôl y beirniad, y Prifardd Mererid Hopwood, cafwyd safon uchel iawn i'r gystadleuaeth ifanc yma eleni. Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd:

"Yn y gystadleuaeth hon, mae tri yn dod i'r brig am wahanol resymau, a chredaf y byddai'r tri wedi bod yn enillwyr teilwng. Ond ar ymylon gwaith un ymgeisydd, roeddwn wedi nodi'r gair 'fflach' dro ar ôl tro. Ac yn y pendraw, penderfynais mai eiddo'r cyfieithydd â'r mwyaf o fflach y dylai'r ffon fod."

Yr her eleni oedd cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg ddarn o nofel i blant gan yr awdur o Mumbai, Sampurna Chattarji. Bu beirniad yr her, Mererid Hopwood, yn cydweithio’n agos gyda Sampurna Chattarji ar gyfieithu ei barddoniaeth a’i rhyddiaeth.

Dyma oedd ymgais gyntaf Angharad Tomos i gyfieithu gwaith awdur arall i'r Gymraeg er iddi gyfeithu peth o'i gwaith ei hun er mwyn i deulu ei gŵr gael ei ddarllen. Dywedodd iddi gael ei hysgogi'n fwy na dim gan y stori ei hun.

"Yn y stori mae tad y prif gymeriad yn colli ei dad mewn ffrwydrad ar drên. Gwnaeth hyn i mi gofio stori am fy nhad fy hun...Yn ystod y rhyfel, tra'n Yr Eidal, fe gyrhaeddodd yr orsaf yn rhy hwyr i ddal y trên oedd yn cario rhai o' i gyd-filwyr a'i gyfeillion. Bu ffrwydrad ar y trên a chollodd nifer eu bywydau - hap wnaeth atal i mi golli fy nhad fy hun ar y trên hwnnw."

Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynnol i'r her gael ei gosod i hyrwyddo a dathlu cyfraniad allweddol cyfieithwyr wrth fynd â llenyddiaeth ar draws ffiniau, ac i dynnu sylw at gyfieithu llenyddol fel un o’r celfyddydau creadigol. Enillydd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru 2011 oedd y bardd Hywel Griffiths. Bydd cyfieithiad - o nofel gan yr awdur o Haiti, Yanick Lahens - gan un o enillwyr Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru-Oxfam Cymru 2010, Alison Leyland, yn cael ei gyhoeddi gan wasg Seren yn 2013.

Yn ôl Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru - un o bartneriaid Tŷ Cyfieithu Cymru - mae'r gystadleuaeth ifanc hon yn dechrau ennill ei phlwy ymhlith llenorion a chyfieithwyr.

"Fel yr ydym yn cydnabod ein llenorion, ein beirdd, ein sgriptwyr drama dros wythnos yr Eisteddfod mae'n bwysig ein bod ni, fel Tŷ Cyfieithu Cymru, yn tynnu sylw at y gelfyddyd o gyfieithu llenyddol - wedi'r cyfan rhaid i genedl gael cyfieithwyr profiadol ac ysbrydoledig er mwyn medru rhannu ei llên â darllenwyr ar draws y byd."