Cyhoeddi Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa ar gyfer 2020-21

Cyhoeddi Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa ar gyfer 2020-21

14 Hydref 2020

Bookshelf Autumn2020 HR2

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Silff Lyfrau ar gyfer 2020-21, sef detholiad o lenyddiaeth gan awduron o Gymru a argymhellir gan y Gyfnewidfa i gyhoeddwyr ar gyfer cyhoeddi mewn cyfieithiad. Byddwn yn cyhoeddi’r Silff Lyfrau yn Ffair Lyfrau Frankfurt yn ôl ein harfer, a gynhelir eleni yn ddigidol rhwng 14-18 Hydref.

Y Silff Lyfrau yw prif ffocws ein presenoldeb mewn ffeiriau llyfrau, pan fydd aelodau o’n tîm yn cyfarfod â chyhoeddwyr i hyrwyddo’r llyfrau a’r awduron a detholwyd i’r Silff, ynghyd â’n Cronfa Grantiau Cyfieithu, sydd ar gael i gyhoeddwyr i gefnogi’r costau cyfieithu wrth gyhoeddi llenyddiaeth o Gymru.

Eleni, detholwyd dwy gyfrol ar bymtheg i’n Silff Lyfrau, pob un yn fyd ynddo’i hun. Yn ystod blwyddyn llawn heriau digynsail, credwn fod y detholiad yma yn gyflwyniad cryf o’r amrywiaeth, dyfeisgarwch a’r hyder sydd ar gael yn ysgrifennu cyfoes o Gymru.

Cawn sawl ymdaith yng nghyfrolau’r Silff Lyfrau eleni, teithiau ar draws gwledydd a diwylliannau.

Yn Footnotes to Water, mae’r bardd blaengar Zoë Skoulding yn olrhain tirweddau llenyddol a ffisegol yr afonydd Adda ym Mangor a’r Bièvre ym Mharis ac yn myfyrio’n ofalus ar y cysylltiadau rhwng cynefinoedd trefol a gwledig, gwahanol ddiwylliannau a rhywogaethau. Yn symud rhwng ei ddwy famwlad yng Nghymru a Chanada, mae Shattercone gan Tristan Hughes hefyd yn rhoi llais i’r cysylltiad rhwng naratif a thirwedd mewn naw stori fer hynod ddiddorol ac wedi’u hysgrifennu’n gywrain iawn.

Mae We Could Be Anywhere By Now gan Katherine Stansfield yn archwilio ei thaith bersonol o Gernyw i Gymru, ac yn myfyrio ar ddysgu iaith, ar ddadleoli gyda llais ffres a gwreiddiol, gan roi sylwadau ar y profiadau bob dydd a chyffredinol gyda ffraethineb.

Mae Filò, ail nofel grefftus Siân Melangell Dafydd, yn teithio i’r gorffennol, wrth iddi gynnig portread teimladwy o fywydau carcharorion rhyfel yr Eidal a ddanfonwyd i Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cawn ail nofel arall gan Carys Davies yn The Mission House, sy'n ymdaith i India gyfoes ac, gyda'i ysgrifennu gwreiddiol a chryno, yn archwilio etifediaeth imperialaeth.

Dychmygu dyfodol dychrynllyd mae cyfrol Llwyd Owen, Iaith y Nefoedd, lle cawn weledigaeth o Gymru 2026-66 gyda siaradwyr Cymraeg yn cael eu gormesu a'u gorfodi o dan ddaear. Tra bod Stillicide gan Cynan Jones hefyd yn cynnig gweledigaeth gythryblus o ddyfodol, un lle mae prinder dŵr yn sbarduno goblygiadau trychinebus.

Yn ei seithfed casgliad o farddoniaeth Wing, mae Matthew Francis yn dathlu rhyfeddod y natur sydd o’n gwmpas.

Blodeugerdd a gomisiynwyd er mwyn rhannu profiadau a lleisiau ymylol yng Nghymru yw’r un ar bymtheg o draethodau creadigol sy’n ffurfio Just So You Know: Essays of Experience, a olygwyd gan Hanan Issa, Duree Shahwar ac Özgür Uyanik. Mae’r casgliad yn ymwneud â hil, rhywioldeb, iechyd meddwl, anabledd, iechyd meddwl a rhagor, ac mi fydd heb os yn gasgliad pwysig i ysgogi a chyfoethogi’r drafodaeth ynghylch cynrychiolaeth ac amrywiaeth ym maes cyhoeddi ac yng nghymdeithas Cymru .

Detholwyd Ar Lwybr Dial gan Alun Davies i’r Silff, dilyniant i Ar Drywydd Llofrudd ac esiampl o’r dosbarth cyntaf o’r genre ditectif yn y Gymraeg.

Mae The Jeweller, sef cyfieithiad medrus Gwen Davies o nofel Caryl Lewis (Y Gemydd, Y Lolfa, 2007), yn stori atgofus a lliwgar am Mari sydd wedi creu bywoliaeth mewn casglu pethau o fywydau eraill, ond mae’n penderfynu gadael fynd o’r gorffennol a dechrau o’r newydd.

Ymdrin â cholled a byw gyda cholled mae Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds, gan ddefnyddio naratif agos-atoch a diymhongar. Cawn naratif telynegol a breuddwydiol am gariad yn Fflur, y diweddaraf o’r nofelydd clodwiw Lloyd Jones.

Cawn gerddi pwerus ag apêl eang yn Dal i Fod, sef cyfrol arbennig iawn gan Elin ap Hywel. Casglwyd cerddi’r bardd at ei gilydd gan ei ffrindiau, Beth Thomas a Menna Elfyn, a'r ddwy yn cynnig cyflwyniad hefyd i waith y bardd a chyfieithydd o fri.

Mae pamffled Llŷr Gwyn Lewis, rhwng dwy linell drên, a luniwyd ac a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod clo, yn gasgliad o gerddi hygyrch ond pwerus, sydd yn ystyried themâu perthnasol iawn i’n cymdeithas heddiw, ac i fywyd y bardd a rhiant, megis perthnasau teuluol, etifeddiaeth a'r gafael sydd gan gariad ar ein bywydau.

Mae dwy nofel yn atseinio’n amlwg yn bresennol, er iddyn nhw wedi’u hysgrifennu cyn y pandemig. Nofel am y gofynion eithafol sydd yn wynebu gweithwyr iechyd yw Rest and Be Thankful gydag Emma Glass unwaith eto yn dangos ei harddull unigryw o ryddiaith a’i iaith denau yn creu naratif pwerus a llawn tyndra. Cyfrol a ddisgrifir fel nofel ‘cyfnod clo’ yw The Party Wall gan yr awdur arobryn Stevie Davies, nofel gyffro seicolegol am ddyn sydd yn cam-fanteisio a gorfodi ei ffordd i mewn i fywyd ei gymydog.

Fe fydd pob un cyfrol yn cael eu hyrwyddo gan Gyfnewidfa Lên Cymru yn ystod ein gweithgareddau rhyngwladol ar hyd y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys ein gweithgareddau mewn ffeiriau llyfrau, gwyliau llenyddol a chyfarfodydd ar-lein.