Cyhoeddi Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa ar gyfer 2021-22

Cyhoeddi Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa ar gyfer 2021-22

01 Tachwedd 2021

Silff2021

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Silff Lyfrau ar gyfer 2021-22, sef detholiad o lenyddiaeth gan awduron o Gymru a argymhellir gan y Gyfnewidfa i gyhoeddwyr ar gyfer cyhoeddi mewn cyfieithiad.

Yn ôl ein harfer, cyhoeddwyd y Silff Lyfrau yn Ffair Lyfrau Frankfurt. Y Silff Lyfrau yw prif ffocws ein presenoldeb mewn ffeiriau llyfrau, pan fydd aelodau o’n tîm yn cyfarfod â chyhoeddwyr i hyrwyddo’r llyfrau a’r awduron a detholwyd i’r Silff, ynghyd â’n Cronfa Grantiau Cyfieithu, sydd ar gael i gyhoeddwyr i gefnogi’r costau cyfieithu wrth gyhoeddi llenyddiaeth o Gymru.

Eleni, detholwyd deunaw cyfrol i'r Silff Lyfrau, pob un yn fyd ynddo’i hun.

  • Mynd - Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Y wraig ar lan yr afon - Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Llechi - Manon Steffan Ros (y Lolfa)
  • Twll Bach yn y Niwl - Llio Maddocks (y Lolfa)
  • Y Castell Siwgr - Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
  • tu ôl i’r awyr - Megan Angharad Hunter (y Lolfa)
  • Cyfrinachau - Eluned Phillips (Honno)
  • Ymbapuroli - Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Lloerganiadau - Fflur Dafydd (y Lolfa)
  • Still - Christopher Meredith (Seren)
  • Inhale / Exile - Abeer Ameer (Seren)
  • The Gododdin - Gillian Clarke (Faber & Faber)
  • Flowers of War - Llŷr Gwyn Lewis, translated by Katie Gramich (Parthian)
  • Please - Christopher Meredith (Seren)
  • Angels of Cairo - Gary Raymond (Parthian)
  • Easy Meat  - Rachel Trezise (Parthian)
  • Many Rivers to Cross - Dylan Moore (Three Impostors)
  • Heavy Light: A Journey Through Madness, Mania and Healing - Horatio Clare (Chatto & Windus)

Bydd pob un cyfrol yn cael ei hyrwyddo gan Gyfnewidfa Lên Cymru yn ystod ein gweithgareddau rhyngwladol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys ein gweithgareddau mewn ffeiriau llyfrau, gwyliau llenyddol a chyfarfodydd gyda chyhoeddwyr.