Cyhoeddi enwau'r preswylwyr Ulysses’ Shelter am 2020

Cyhoeddi enwau'r preswylwyr Ulysses’ Shelter am 2020

17 Rhagfyr 2019

Untitled design 3

Fel rhan o raglen breswyl Ulysses' Shelter, dewiswyd pedwar llenor o Gymru i dreulio preswyliadau gyda phartneriaid y rhaglen yn 2020.

Dewiswyd yr ymgeiswyr gan reithgor yn cynnwys Sally Baker, cyn-gyfarwyddwr Tŷ Newydd, PEN Cymru; Alexandra Büchler, cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar draws Ffiniau; a Sioned Puw Rowlands, golygydd y cylchgrawn diwylliannol O’r Pedwar Gwynt.

Mae Eluned Gramich (1989) yn awdur a chyfieithydd llenyddol wedi’i lleoli yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd wrthi yn cwblhau ei PhD Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd Woman Who Brings the Rain, sef ei chofiant creadigol am Hokkaido, Japan, y wobr New Welsh Writing a chyrhaeddodd y rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Roedd hi’n un o’r Awduron wrth eu gwaith Gŵyl y Gelli yn 2016 a 2018 ac mae wedi cyd-gyfieithu dwy gerdd gan y bardd Japaneaidd Naha Kanie, a ymddangosodd yn y cylchgrawn llenyddol Asiaidd Cha. Mae cynifer o’i straeon byrion wedi derbyn gwobrau a chanmoliaeth, ac mae’n cyfrannu’n gyson at gyfnodolion ffeithiol a chylchgronau llenyddol.
Yn ystod ei phreswyliad, bydd yn gweithio ar draethodau ffuglen yn ymwneud ag iaith, diwylliant a hunaniaeth, a dywed bod y diddordeb yma yn seilio yn ei statws ei hun fel awdur Cymraeg-Almaeneg. Bydd y preswyliad yn rhoi’r cyfle iddi ymgysylltu â’r hunaniaethau cymhleth ieithyddol ac Ewropeaidd yn Slofenia – lle y byddai yn treulio ei phreswyliad cyntaf yn Ljubljana ym mis Mai 2020.

Bardd yw Steven Hitchins (1983), sy’n hanu o Rhondda Cynon Taf, a raddiodd gyda B.A., M.A. a PhD mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Aberystwyth. Mae ei brofiad fel athro Saesneg wedi ffurfio sylfaen ar gyfer yr agweddau cydweithredol yn ei farddoniaeth. Yn fardd lleol, o ran ei berthynas gyda lle a’i amgylchedd, mae ei farddoniaeth yn cynnwys proses o arsylwi a chydnabod hanes a phrosesau daearegol ac ieithyddol yr ardal. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth yn helaelth mewn cyhoeddiadau fel The Literary Pocket Books, Poetry Wales, Fire, Chimera, ac mae’n cydweithio yn aml â beirdd ac artistiaid eraill o Gymru.
Yn ystod ei breswyliad, bydd yn gweithio ar brosiect barddoniaeth yn seiliedig ar leoliad a’r profiad synhwyraidd o gerdded ac arsylwi ar yr amgylchedd, er mwyn creu gofod testunol ac amlgyfrwng gan ddefnyddio recordiadau, gludwaith a pherfformiad. Bydd cydweithredu ag llenorion a thrigolion lleol yn elfen o’r prosiect hefyd, gan fod llawer o’i ysbrydoliaeth yn seilio o fywyd bob dydd. Bydd ei breswyliad cyntaf ym Mljet (Croatia) ym mis Ebrill 2020.

Ganed Lloyd Markham (1998) yn Johannesburg, De Affrica, a threuliodd ei blentyndod yn Zimbabwe, cyn symud i ac ymgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Graddiodd gyda B.A. mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach) ac yna MPhil. Enillodd ei nofel gyntaf, Bad Ideas/ Chemicals (Parthian Books, 2017) Gwobr Betty Trask, cyrhaeddodd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn a dewiswyd gan Gyfnewidfa Len Cymru i’w Silff Lyfrau ar gyfer ei hyrwyddo’n rhyngwladol. Cafodd ‘Mercy’ ei gynnwys mewn blodeugerdd o awduron ifanc o Gymru ac Ewrop o’r enw Zero Hours on the Boulevard: Tales of Independence and Belonging (Parthian Books, 2019). Yn 2019 derbyniodd fwrsariaeth gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar ei ail lyfr, gyda’r teitl dros dro Fox Bites.
Yn ystod ei breswyliad, bydd yn gweithio ar gasgliad o straeon byrion gwyddonias a realaidd-hudol ar thema gwaith, perthyn a newid amgylcheddol. Bydd y cyntaf o’i ddau breswyliad yn Ljubljana (Slofenia) ym mis Mawrth 2020.

Mae Grug Muse (1993) yn fardd, golygydd, perfformwraig ac addysgwraig. Cafodd ei magu yn Nyffryn Nantlle a bu’n astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac yn y Weriniaeth Tsiec. Mae'n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017 a’i phamffled Llanw + Gorwel yn 2019. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O'r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu gwaith Gwyl y Gelli 2018-19, ac mae’n gweithio ar brosiect doethurol yn edrych ar lenyddiaeth deithio Cymraeg am America Ladin, ac fe’i hariennir gan y Ganolfan Astudiaethau Doethurol mewn astudiaethau Celtaidd yr AHRC.
Yn ystod ei phreswyliad, bydd hi’n gweithio ar Bywydau Cyffredin, sef casgliad o ddarnau rhyddiaethol ac ysgrifol sy’n ymdrin â byd-welediad adroddwr dienw. Trwy gyfres o bortreadau, vignettes, a darnau ysgrifol bydd yn fyfyrdod ar natur ‘gwylio’ a’r ‘gwyliedig’, ffotograffiaeth, a natur dogfennaeth. Bydd y prosiect hwn yn arbrofiad newydd iddi weithio gyda ffurfiau mwy estynedig a chyfeiriad newydd. Bydd ei phreswyliad cyntaf ar yr ynys Mljet (Croatia) ym mis Mawrth, 2020.

Lansiwyd prosiect Ulysses’ Shelter yn 2017 gyda’r nod i adeiladu rhwydwaith o breswyliadau cyfnewid llenyddol wedi’u hanelu at awduron rhyddiaith a/neu farddoniaeth a chyfieithwyr llenyddol dan 40 oed. Mae ail gam Ulysses’ Shelter wedi ei gyd-ariannu unwaith eto gan raglen Ewrop Creadigol yr Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei redeg gan y cyhoeddwyr a’r asiantaeth lenyddol Sandorf (Croatia) a phedwar partner, sef Llenyddiaeth ar draws Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru (Cymru), Krokodil o Belgrade (Serbia), Thraka o Larissa (Gwlad Groeg), a Slovene Writers’s Association o Ljubljana (Slofenia). Mae’r bartneriaeth yma yn bwriadu datblygu rhwydwaith preswyliadau llenyddol ar draws Ewrop.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus o’r sefydliadau arall yw:
Sandorf, Croatia: Maja Klarić, Maja Ručević, Dino Pešut
Thraka, Larissa: Dimitris Karakitsos, Marilena Papaioanou, Thomas Tsalapatis
Slovene Writers’s Association, Ljubljana: Dejan Koban, Davorin Lenko, Katja Zakrajšek
Krokodil, Belgrade: Danilo Lučić, Maša Seničić, Nataša Srdić

Bydd y galwad agored nesaf am geisiadau yn Hydref 2020, pan fydd tri ymgeisydd yn cael eu dewis unwaith eto i gymryd rhan yn y rhaglen breswyl ar gyfer 2020.