Cyhoeddi enwau'r preswylwyr Ulysses’ Shelter am 2021

Cyhoeddi enwau'r preswylwyr Ulysses’ Shelter am 2021

22 Mawrth 2021

Fel rhan o raglen breswyl Ulysses' Shelter, dewiswyd y llenorion canlynol o Gymru i dreulio preswyliadau gyda phartneriaid y rhaglen yn 2021:

Mae Dylan Moore yn sylwebydd blaenllaw ar ddiwylliant a’r cyfryngau yng Nghymru ac ef yw golygydd the welsh agenda ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig. Derbyniodd grant ymchwil gan Academi Fyd-eang y Celfyddydau Rhyddfrydol ar gyfer ei nofel ddiweddaraf, Many Rivers to Cross (Three Impostors, 2021). Cyhoeddwyd ei gyfrol o draethodau teithio, Driving Home Both Ways (Parthian) yn 2018, ac yn yr un flwyddyn derbyniodd Gymrodoriaeth Ryngwladol Gŵyl y Gelli.

Bardd a llenor o Ferthyr Tudful yn wreiddiol yw Morgan Owen. Yn 2019 cyhoeddodd bamffled o farddoniaeth, moroedd/dŵr, gyda Chyhoeddiadau'r Stamp, ac ennillodd hwnnw Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd. Yr un flwyddyn, cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Bedwen ar y lloer, hefyd gyda Chyhoeddiadau'r Stamp, ac enillodd Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru/Pen Cymru am gyfieithu cerddi o'r Bwyleg gan Julia Fiedorczuk i'r Gymraeg. Mae wedi ennill Tlws Coffa D Gwyn Evans ddwywaith (2017; 2018), ac yn 2018 a 2019 roedd yn rhan o gynllun Awduron wrth Eu Gwaith / Writers at Work Gŵyl y Gelli. Yn 2020, daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Amgen, a chyhoeddodd bamffled byr o ysgrifau am brofiadau'r cyfnod clo, Ymgloi. Mae'n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ac yn gweithio ar gyfrol o ysgrifau am ardal ei fagwraeth, Merthyr Tudful, gyda chymorth Ysgoloriaeth Awdur gan Lenyddiaeth Cymru.

Lansiwyd prosiect Ulysses’ Shelter yn 2017 gyda’r nod o adeiladu rhwydwaith o breswyliadau cyfnewid llenyddol wedi’u hanelu at awduron rhyddiaith a/neu farddoniaeth a chyfieithwyr llenyddol dan 40 oed. Mae ail gam Ulysses’ Shelter wedi ei gyd-ariannu unwaith eto gan raglen Ewrop Creadigol yr Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei redeg gan y cyhoeddwyr a’r asiantaeth lenyddol Sandorf (Croatia) a phedwar partner, sef Llenyddiaeth ar draws Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru (Cymru), Krokodil o Belgrade (Serbia), Thraka o Larissa (Gwlad Groeg), a Slovene Writers’s Association o Ljubljana (Slofenia). Mae’r bartneriaeth yma yn bwriadu datblygu rhwydwaith preswyliadau llenyddol ar draws Ewrop.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus o Gymru llynedd oedd Eluned Gramich, Grug Muse, Lloyd Markham a Steven Hitchins. Yr ymgeiswyr o’r sefydliadau arall ar gyfer y brosiect eleni yw:

Sandorf, Croatia: Marija Andijasevic, Katja Grcic, Josip Ivanovic
Thraka, Larissa: Filia Kanellopoulou, Nikolas Koutsodontis, Iakovos Anyfantakis
Slovene Writers’s Association, Ljubljana: Tomo Podstenšek, Ana Svetel, Uroš Prah
Krokodil, Belgrade: Katarina Mitrović, Vitomirka Trebovac, Goran Stamenić