Seremoni Wobrwyo'r Her Gyfieithu 2019

Seremoni Wobrwyo'r Her Gyfieithu 2019

14 Awst 2019

IMG 20190808 bach


Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019!

Anrhegwyd Ffon yr Her Gyfieithu a gerfiwyd gan Elis Gwyn i’r bardd ac ysgrifwr Morgan Owen ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst mewn seremoni wobrwyo ym mhabell Prifysgol Cymru y Drindod Sant ar ddydd Iau y 8fed o Awst. Yr her eleni oedd cyfieithu dwy gerdd gan y bardd Pwyleg cyfoes, Julia Fiedorczuk: Szuflada a Relentlessly craving. Mae Julia Fiedorczuk yn fardd, awdur, cyfieithydd ac yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Warsaw.

Daeth pedair ymgais i law’r beirniad, Dr Aled Llion Jones o Brifysgol Bangor, a ddywedodd:

“Rydym erbyn hyn yn hen gyfarwydd â’r dewis y mae rhaid ei wneud rhwng cyf-ieithu, trosi a trans-latio; y dewis rhwng creu cerdd Gymraeg o lais estron, a gadael i’r Gymraeg leisio’n estron. Ni waeth pa ddewis a wneir, rhaid – rhaid – medru clywed y llais a leisiodd gyntaf i fedru adael iddi siarad iaith arall, gydag acen fwriadol ai peidio. […] Rhaid nodi bod safon yr ysgrifennu yn uchel, ac mae llwyddiannau’r cyfieithwyr i’w canmol yn fawr.”


Cyhoeddir y cyfieithiad buddugol, feirniadaeth Dr. Aled Llion Jones a darn gan Morgan ar y broses o gyfieithu ar wefannau O’r Pedwar Gwynt a Wales PEN Cymru.

Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones o sefydliad Mercator Rhyngwladol:

“Nod y gystadleuaeth flynyddol hon yw ceisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg. Elfen graidd o’r Her Gyfieithu yw cyrraedd dealltwriaeth o gerdd mewn un iaith a chyfleu hynny mewn iaith arall. Sefydlwyd yr Her Gyfieithu yn 2009 er mwyn hyrwyddo a chydnabod cyfraniad hanfodol cyfieithwyr wrth i ni alluogi llenyddiaeth i deithio ar draws ffiniau. Drwy waith cyfieithwyr llenyddol, gall beirdd ac awduron gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ynghyd â rhyngwladoli eu gyrfaoedd. Mae’r gwobrau hefyd yn gydnabyddiaeth fod cyfieithu llenyddol yn un o’r celfyddydau creadigol yn ogystal ag annog cyfieithwyr llenyddol newydd ar gyfer y dyfodol.”


Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd rhwng Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Polish Cultural Institute, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac O’r Pedwar Gwynt.

Beirniadaeth llawn Dr. Aled Llion Jones:

Ni welwyd erioed efallai fwy o angen lleisiau cryf mewn barddoniaeth, nac ychwaith fwy o angen cyfeithu, yng Nghymru ac yng Ngwlad Pwyl: rhwng PiS a Brexit, mae gwleidyddiaeth y naill wlad a’r llall yn beryglus o agos at y dibyn, dibyn o arwahanrwydd peryglus, ac mae angen rhannu profiadau a rhannu lleisiau. Dyma’r Her Gyfieithu, felly, yn cynnig ffisig arbennig iawn i’r cyflwr hwn o arwahanrwydd: nid yn unig fod y canllawiau yn nodi’n echblyg y croesewid cyfieithiadau ar y cyd – a rhai torfol – ond gwahoddwyd y cyfieithydd di-Bwyleg i fynd am dro i gaffi neu dafarn i gael hyd i gyfaill newydd i’w holi ynghylch cyfrinachau geiriau’r cerddi. Dyma gyfieithu fel sbardun i gyflwyniad, i gyfathrach ac i gyfeillach – yn weithred gymunedol i greu cymuned newydd. Anffodus braidd oedd mai nifer weddol fach o gynigion a ddaeth i law, ond roedd safon uchel pob un eto’n galonogol.

Yn ogstal â’r ddwy gerdd wreiddiol, ‘Szuflada’ a ‘Relentlessly Craving’ gan Julia Fiedorczuk, rhoddwyd gerbron y cyfieithwyr ddau set o gyfieithiadau i’w hystyried: un i’r Saesneg ac un i’r Sbaeneg. Arfer digon cyffredin – a digon dadleuol – yw cyfieithu cyfryngol sy’n defnyddio lingua franca fel pont: yr her yw peidio â gadael i’r bont droi’n dynfaen, gan ieuo’r cyfieithiad i’r iaith anghywir. Rydym yn hen gyfarwydd â’r ystod o bosibiliadau sydd rhwng (1) creu cerdd gartrefol Gymraeg o lais estron y gwreiddiol, a (2) gadael i’r Gymraeg leisio’n estron fel y gwreiddiol, ond ni waeth pa ddewis a wneir, rhaid yn gyntaf fedru clywed y llais. Yn y gystadleuaeth hon, ni theimlais fod y mwyafrif o’r cyfieithwyr wedi treulio digon o amser yn y caffi neu’r dafarn, yn cael deall gan Bwyl neu Bwyles yr hyn sydd y tu ôl i’r seiniau. Serch hynny, rhaid nodi bod safon yr ysgrifennu yn uchel, ac mae llwyddiannau’r cyfeithwyr i’w canmol yn fawr. Ac nid pawb arhosodd gartref.

Canolog i waith Julia Fiedorczuk yw ei defnydd o eirfaoedd o amryw feysydd, ac yn enwedig efallai’r gwyddonol, er mwyn cyfleu sioc o weledigaeth. Yng ngeiriau’r bardd, ‘mae fy meistri [...] yn cynnwys nid yn unig nifer (fawr!) o feirdd, ond gwyddonwyr yn ogystal, gan fod rhaid i wyddonwyr hefyd edrych ar y byd fel petaent yn ei weld am y tro cyntaf.’ Un her i’r cyfieithwyr oedd ymwrando ar yr amrywiadau cywair yn y cerddi ac ystyried a ddylid – a sut y dylid – eu cyfleu yn Gymraeg. Nid hawdd hyn bob tro: mae’r gair anarferol o Ladinaidd, ‘ekwinokcjum’ yn taro’r glust ar unwaith mewn modd na all ‘equinox’ nac ‘equinoccio’. ‘Cyhydnos’ yw’r ‘ystyr’, ond nid hwnnw efallai yw’r gair ‘cywir’ (er mai ‘cyhydnos’ a gafwyd ymhob cyfieithiad).

Dewisodd ein cyfieithwyr bron bob un lyfnhau’r dweud yn eu cyfieithiadau, bron fel petai’r nod oedd creu cerdd ‘bert’ – cerdd ‘farddonol’. Weithiau ceir gormod o’r ‘barddonol’ mewn barddoniaeth. Nid yw llais Fiedorczuk o reidrwydd yn hardd. Wele’r llinell hir (a braidd yn lletchwith) ‘Stada nieżyjących zwierząt, pożywiające się dawno wymarłym gatunkiem trawy’. Cafodd hyn ei symleiddio gan hanner ein cyfieithwyr, a hwythau’n hepgor y gair ‘gatun[ek]’ (‘rhywogaeth’), a’r cynodiadau gwyddonol-epistemolegol hollbwysig o gyfrif a chategoreiddio (mae ‘cyfrif’ yn y gerdd hon a’r ail gerdd yn cyfrif am lawer). Eto, sylwodd Gwenynen a Spleen ar bwysigrwydd y ‘rhywogaeth’, a Spleen hefyd welodd y gair allweddol ar ddechrau’r llinell hon: ‘nieżyjących’. 'Marw' sydd gan bawb arall, ond mae Spleen wedi gweld arwyddocâd y negydd ‘nie-’, a rhydd inni ‘anifeiliaid difywyd’. Hollbwysig i'r gerdd hon yw amwysedd y berthynas rhwng presenoldebau ac absenoldebau, rhwng gorffennol a phresennol, rhwng bywyd a darfodedigaeth, a rhwng amryw fathau o farwolaethau nad ydynt yn peri diflannu’n llwyr. Spleen a’r Badwr sy’n deall y pwynt pwysig yn y llinell olaf – er gwaetha’r cyfieithiad Saesneg – nad yw’r gerdd yn mynnu bod y trigolion a welir yn y lluniau ‘wedi mynd’. Er bod y tai ‘wedi’u bwyta gan ddŵr a gwynt’ (Spleen), mae cof, a chelf, a cherdd, yn drech.

Problem fawr i'r cyfieithwyr oll yn achos y gerdd gyntaf oedd rhywedd yn y llais. Yn ‘Jej pamiątki’ yn llinell 5, ‘jej’, yw’r ‘ei’ benywaidd. Mae modd deall hyn fel cyfeiriad at y ‘szuflada’, y drôr, sydd yn enw benywaidd yn Bwyleg: y drôr biau’r cofroddion. Ond yn ‘ei gofroddion’ collir yr awgrym cryf mai trugareddau merch sydd yma. Yn Saesneg mae ‘Its keepsakes’ yn cyfeirio’n echblyg ac yn anniddorol at y ‘drawer’, tra mae’r Sbaeneg yn creu hyd yn oed fwy o amwysedd, gyda ‘Sus recuerdos’. Er cystal ‘Yr hen drugareddau’ (Spleen) neu ‘Dail y cofio’ (Pen-hydd), trueni na phenderfynodd neb ychwanegu’r fannod at deitl y gerdd: wedi’r cyfan, nid yw ‘y ddrôr’ yn anghywir chwaith. Yn Bwyleg, nid oes na bannod penodol nac amhenodol.

‘B.G.’ yr ail gerdd yw Björk Guðmundsdóttir, ac o’i chân ‘Wanderlust’ y daw’r geiriau ‘Relentlessly Craving’. Da oedd gweld y mwyafrif yn ymatal rhag cyfieithu’r teitl i'r Gymraeg: Saesneg yw’r gwreiddiol a dylai aros felly. Ar wahân i hyn, efallai nad yw cywair ac ieithwedd yn peri problemau enfawr yn y gerdd hon: yr her yw cyfleu taerineb y syniadau, y syniadaeth a'r llais. Dewisodd y mwyafrif gyfleu’r cyfarchol (‘wierszu, wierszu’) drwy ddefnyddio’r treiglad meddal yn unig: ‘gerdd, gerdd’. Mae Spleen yn mynd i gyfeiriad tynerach: ‘fy ngherdd, fy ngherdd’, sydd efallai’n fwy cydnaws â’r awyrgylch peryglus o gorfforol.

Drysir yma eto’r ffiniau rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng crefydd a gwyddoniaeth, rhwng mater a syniad: dyma farddoniaeth gwantwm lle mae pob sibrwd yn gallu troi’n ‘fala uderzeniowa’, ac mae’r ‘datod parhaus’ (Badwr), y ‘dadfeiliad diddiwedd’ (Gwenynen) neu’r ‘pydru parhaol [yn] amod ar bob cyfuno’ (Spleen). Oedwn i ystyried hyn. 'Shock wave’ yw ‘fala uderzeniowa’ yn Saesneg – ‘onda de choque’ yn Sbaeneg – sef ton sy’n symud trwy gyfrwng yn gyflymach na sŵn. ‘[E]rgyd uwchsonig’ a gafwyd gan Spleen, a ‘thrawiad bom’ gan Badwr felly, ond tybed ai ‘ergyd’ neu ‘[d]rawiad’ yw hanfod ‘ton’, sy’n cludo egni heb o reidrwydd symud mas? ‘[S]iocdon’ a gafwyd gan Pen-hydd a Gwenynen, i geisio cyfleu’r gerdd – y llais – sy'n mynd yn gyflymach nag ef (neu hi) ei hun. Cyfieithwyd ‘warun[ek]’ yn aml fel ‘cyflwr’, gan ddilyn, mae’n debyg, ‘condition’ y Saesneg neu ‘condición’ y Sbaeneg, heb sylweddoli mai’r ystyr arall sy’n gywir yma: nid ‘cyflwr’ ond ‘amod’. (Chwarae teg i Gwenynen am ddweud ‘sail’.)

Erbyn pwyso a mesur am yn hir, fe’m cefais fy hun yn methu â dewis rhwng dau o’r cyfieithwyr: Spleen a Badwr. Gwyddwn fod Spleen mewn un ffordd amlwg yn rhagori ar Badwr: roedd wedi treulio digon o amser yn y caffi, ac roedd wedi deall y Bwyleg yn well mewn sawl man. Ac eto, roedd rhywbeth yn llais Badwr a’m denodd at ei waith ef, ac roedd yntau wedi llwyddo yn amlach na pheidio i ddewis yr ystyron ‘cywir’ hefyd. Hoffwn fod wedi torri’r ffon yn ddwy, ond fe’i henillir eleni gan Badwr, gydag ymddiheuriadau i Spleen: wybacz!

[Trafodwyd â’r enillydd y pwyntiau a godwyd wrth feirniadu’r gystadleuaeth, a chafodd gyfle cyn cyhoeddi i addasu ei gerdd yn ôl y sylwadau hynny.]