Cyhoeddi Silff Lyfrau Hydref 2018 yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyhoeddi Silff Lyfrau Hydref 2018 yn Ffair Lyfrau Frankfurt

10 Hydref 2018

Copy of Twitter Silff Lyfrau 2018 20192

Bydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i'r Almaen ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt, gynhelir rhwng 10 - 14 Hydref 2018. Georgia fydd y wlad wadd eleni.

Yn ystod y ffair fe fyddwn yn cyfarfod â chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau diweddaraf – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

Detholwyd naw llyfr arbennig o Gymru i'r silff eleni: pob un yn fyd ynddo’i hun.

Mae Brief Lives, chwe stori fer gan Christopher Meredith, yn archwiliad o amser a’r cof, gyda'r gwaith wedi ei osod mewn amryw gyfnodau a lleoliadau, o fôr De Tsiena yn 1946 i’r gwaith olaf sydd wedi ei osod yn unman ar ddiwedd amser.

Mae’r cyfrolau eraill a ddetholwyd i'r Silff Lyfrau eleni hefyd yn teithio i’r gorffennol: yn nofel Aled Jones Williams Nostos mae gwraig yn dychwelyd i'w hen dref wedi blynyddoedd o absenoldeb ar ôl colli ei mab. Stori ysbryd afaelgar geir yn nofel Mihangel Morgan, ond bod yna hefyd goegni ehangach ei arwyddocâd. Ymdrin ag ymosodiad rhywiol mae nofel gyntaf Emma Glass, Peach, a'i llais telynegol ond nerthol yn creu naratif sy'n pendilio rhwng rhyddiaith a barddoniaeth.

Cofio trychineb Aberfan mae cyfrol Owen Sheers, The Green Hollow, drwy gerddi pwysig ac emosiynol. Tra bod degfed gyfrol y bardd Paul Henry, yn symud rhwng cynddaredd a llonyddwch, y gorffennol a'r presennol, cerddoriaeth a thawelwch.

Mae dwy nofel ffuglen droseddol yn ymddangos ar y Silff Lyfrau hefyd eleni: mae nofel lenyddol Gary Raymond yn mynd a'r darllenydd i ynys Cyprus, i ddinas wedi ei rhwygo gan frad, rhyfel, celwyddau a chyfrinach erchyll. Yn ei unfed nofel ar ddeg, mae meistr noir Cymru Llwyd Owen yn gwthio ffiniau’r genre gyda’i naratif heriol.

Wedi ei lleoli yn y dyfodol, mae Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, enillydd Medal Rhyddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2018, yn ymdrin â goroesi wedi trychineb niwclear, gan holi cwestiynau pwysig am strwythur ein cymdeithas.

Fe fydd pob un o’r naw cyfrol yn cael eu hyrwyddo gan Gyfnewidfa Lên Cymru mewn ffeiriau llyfrau, gwyliau llenyddol, gweithdai cyfieithu a digwyddiadau eraill yn rhyngwladol ar hyd y flwyddyn sydd i ddod.

I ddarllen rhagor am y teitlau hyn ac i gael manylion hawliau cyfieithu, ewch i’r adrannau Silff Lyfrau.

I drefnu cyfarfod gyda’r Gyfnewidfa yn ystod y ffair, cysylltwch gyda ni: post@waleslitexchange.org