Seremoni Wobrwyo Her Gyfieithu 2018

Seremoni Wobrwyo Her Gyfieithu 2018

07 Tachwedd 2018

Ffon Cyfieithu

Cynhelir seremoni i wobrwyo enillydd Her Gyfieithu eleni, Llewelyn Hopwood, yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 10fed o Dachwedd am 3 o'r gloch.

Bydd Llewelyn Hopwood yn derbyn gwobr o £100 yn rhodd gan Mercator Rhyngwladol a Ffon Gyfieithu hardd o waith Elis Gwyn Jones, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae'r Gyfnewidfa Lên Cymru yn cydweithio gyda Wales PEN Cymru a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gynnal yr Her Gyfieithu i geisio ysgogi a meithrin cyfieithu creadigol a llenyddol i’r Gymraeg. Dewisir darn o waith sydd ag iddo berthnasedd i sefyllfa neu argyfwng penodol yn y byd ac sydd a wnelo rhyddid mynegiant a hawliau ieithyddol, yn unol ag amcanion PEN Cymru a PEN Rhyngwladol.

Yr her eleni felly, oedd cyfieithu cerdd o Gatalunya gan y bardd Laia Martinez i Lopez (neu Laia Malo). Cyhoeddwyd y gerdd ddideitl yma yn ei phumed gyfrol o farddoniaeth, sef Venus Volta (Lleonard Muntaner Editor, 2018) ond fe ymddangosodd yn gyntaf ar 3 Tachwedd 2017 yn y papur newydd digidol Vilaweb fel rhan o gyfres o gerddi ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau Rhyddid) yn cyflwyno ymateb beirdd i’r sefyllfa yng Nghatalwnia.

Cawsom ymateb cryf i’r Her eleni gyda deuddeg ymgeisydd yn mentro, ond Rhu Tywi, sef Llewelyn Hopwood a ddaeth i frig y gystadleuaeth. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae Llewelyn bellach yn fyfyriwr ieithoedd modern yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Cyhoeddir ei gyfieithiad buddugol ar wefan cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

Mi fydd Menna Elfyn, Llywydd Wales PEN Cymru, Ned Thomas, sef beirniad yr Her Gyfieithu eleni, ac Elin Haf Gruffydd Jones o'r Gyfnewidfa Lên yn annerch yr enillydd yn ystod y seremoni.

Mi fydd yna luniaeth a chroeso i bawb.