Seremoni wobrwyo Her Gyfieithu 2017

Seremoni wobrwyo Her Gyfieithu 2017

02 Awst 2017

Her Gyfieithu 2017 bach

Cyhoeddir enw enillydd Her Gyfieithu 2017 mewn digwyddiad gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Wales PEN Cymru ar stondin Prifysgol Aberystwyth, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, ddydd Iau,10 Awst 2017 am 3:00yh.

Yr her eleni oedd cyfieithu gwaith Nâzım Hikmet (1902–1963), un o feirdd amlycaf Twrci'r ugeinfed ganrif, i’r Gymraeg.

Traddodir y feirniadaeth gan Caroline Stockford, cyn cyhoeddi enw'r enillydd a chyflwyno gwobr o £250 gan Brifysgol Abertawe a ffon farddol yn rhoddedig gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Bydd cyfle i glywed darlleniad o'r cyfieithiad buddugol gan Lywydd Wales PEN Cymru, Menna Elfyn a dysgu mwy am waith y mudiad yn Nhwrci.

Cadeirir y digwyddiad gan Mari Siôn o Gyfnewidfa Lên Cymru.

Darperir lluniaeth ysgafn. Croeso cynnes i bawb.

Oriel Gysylltiedig