Bad Ideas \ Chemicals gan Lloyd Markham ar restr fer Gwobr Betty Trask 2018
Cyflwynir Gwobr Betty Trask i nofel gyntaf gan awdur o dan 35 oed. Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Zadie Smith, David Szalay, Hari Kunzru a Sarah Waters. Mae’r wobr yn £26,250.
Y beirniad eleni yw Ben Brooks, Joanne Harris a Samantha Shannon, a detholwyd chwe chyfrol i’r rhestr sy’n adlewyrchu safon ac amrywiaeth awduron newydd heddiw.
Cyflwynir y wobr gan Stephen Fry, yn RIBA ar 19 Gorffennaf, mewn seremoni arbennig gyda 400 o westeion o’r byd cyhoeddi ynghyd ac aelodaeth Cymdeithas yr Awduron.
Rhestr fer Gwobr Betty Trask 2018
-
Mussolini’s Island by Sarah Day (Tinder Press);
-
All the Good Things by Clare Fisher (Viking);
-
Strange Heart Beating by Eli Goldstone (Granta)
-
The City Always Wins by Omar Robert Hamilton (Faber and Faber)
-
Bad Ideas/Chemicals by Lloyd Markham (Parthian)
-
The Reactive by Masanda Ntshanga (Jacaranda)
Detholwyd Bad Ideas \ Chemicals by Lloyd Markham i Silff Lyfrau 2017 - 2018 Cyfnewidfa Lên Cymru, ein detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir ar gyfer cyfieithu dramor.
Darllenwch fwy am y gyfrol yma.