Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Cynan Jones

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Cynan Jones

25 Tachwedd 2014

IMG 3264

Cyfweliad arbennig gyda Cynan Jones, un o awduron Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa eleni, wrth iddo baratoi at ei daith i ffair lyfrau Gudalajara, Mecsico i ddathlu cyhoeddi cyfieithiad Sbaeneg Carlos Milla a Isabel Ferrer o'i gyfrol, The Dig.

Beth ysbrydolodd chi i fod yn awdur, ac o ble y daw eich syniadau?

Darllen 'wnaeth fy nghymell i ysgrifennu. Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn mwynhau rhywbeth ac yna peidio ceisio ei wneud fy hun. (Rwyf wrth fy modd yn bwyta, felly dwi’n dysgu coginio). Roedd y fath fomentwm yn cael ei greu wrth i mi ddarllen nes fy nghymell i ysgrifennu. Daw syniadau o bobman. Dim ond rhai syniadau sy’n gweddu i gyfrwng ysgrifennu. A dim ond rhai o’r rheini sy’n gweddu i ffurf y nofel fer. Mae yna hidlo yn hynny o beth. Ond wrth fyw lle rwy’n byw, mae’n amhosibl peidio â chael eich colbio gan syniadau drwy’r amser.

Sut fyddech chi’n disgrifio’ch gwaith ysgrifennu?

Y dasg gyntaf wrth ysgrifennu yw dysgu sut i ysgrifennu. Wedi dysgu hynny, mae’n rhaid dewis sut y byddwch chi’n bwrw ati. Rwy’n ceisio ysgrifennu'r hyn sydd ddim yno. Weithiau rwy’n awyddus i ddarllen llyfr o fath arbennig nad yw’n bodoli. Y dasg i mi wedyn yw ei ysgrifennu. O edrych ar fy ngwaith hyd yn hyn, mae’r ysgrifennu ei hun yn uniongyrchol, yn weledol a chorfforol.

Pa awduron sydd wedi dylanwadu arnoch?

Mae popeth a ddarllenir yn dylanwadu. Ni allaf ddweud fod un awdur penodol wedi bod yn ddylanwad. Mae’r stori y dewisir ei hadrodd yn gorchymyn y ffordd yr eir i’r afael â hi; mae hynny‘n broses ddwyffordd wedi i chi gael llwyddiant. Wrth edrych nôl, dwi’n sylweddoli mai ar ôl ysgrifennu y mae gwaith awduron eraill o gymorth, gan fwyaf drwy fod yn eu cwmni.

Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ydi’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?

Rwy’n dyfalu bod awduron wedi wynebu’r un her sylfaenol erioed: creu amser i ysgrifennu. Mae ceisio ysgrifennu’n dda, cael eich cyhoeddi, cael eich talu, maent oll yn dod ar ôl hynny. Tra mod i’n ddigyfaddawd gyda’m hamser wrth eistedd i lawr ac ysgrifennu llyfr, mae’n anodd o hyd sicrhau’r gofod o ddau, dri mis sydd ei angen arnaf i wneud hynny. Gyda llwyddiant cynyddol daw gofynion cynyddol i fod ar gael, a thra bod hynny’n broblem braf, nid yw’n gydnaws gyda’r ffordd yr af ati i ysgrifennu.

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?

Y peth anoddaf ynghylch ysgrifennu yw’r ysgrifennu ei hun. Y peth hawsaf ynghylch ysgrifennu yw’r ysgrifennu ei hun.

Pa awduron o Gymru fyddech chi’n eu hargymell i ddarllenwyr, a pham?

Mae yna awduron cyfoes gwych o Gymru sy’n amryfal eu harddull a’u medr. Fe fyddwn i’n annog darllen cyfres gwasg Seren New Stories From the Mabinogion, ynghyd â chyfrol Wales Arts Review, Fiction Map of Wales i gael blas o’r amrediad.

Detholwyd The Dig gan Cynan Jones i Silff Lyfrau 2014 Y Gyfnewidfa. Detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan Gyfnewidfa Len Cymru ar gyfer cyfieithu dramor yw'r Silff Lyfrau - darllenwch fwy yma.

Cefnogir taith Cynan Jones a Ffair Lyfrau Rhyngwladol Guadalajara gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Cynnwys Cysylltiedig