Bookcase Focus: An interview with Lloyd Markham

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Lloyd Markham

Bu’r Gyfnewidfa Lên yn cyfweld â Lloyd Markham, un o awduron ein silff lyfrau, am ei waith a’r dylanwadau arno, wrtho iddo baratoi i ail-lansio Bad Ideas \ Chemicals yng Nghaerdydd, ar 30 Tachwedd 2017. 

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i fod yn awdur, ac o ble y daw eich syniadau?
Ers i mi gofio, mae gen i ddychymyg gorfywiog iawn. Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n mwynhau creu straeon a chwarae gemau dychmygol. Ychydig yn ormod efallai. Roeddwn i’n dueddol o synnu plant eraill, oedd â diddordebau mwy cytbwys, gyda’m hynodrwydd. O ganlyniad i hynny roeddwn i’n cael fy mwlio ac yn ynysig yn gymdeithasol yn yr ysgol am ran helaeth o’m llencyndod. Felly, daeth creu bydoedd a straeon dychmygol yn ffordd i dreulio’r amser. Mewn ffordd, dwi’n credu bod Zimbabwe – y wlad lle treuliais fy mhlentyndod – hefyd yn ffactor yn hyn o beth. Gallai Zimbabwe fod yn dawel ac yn eang iawn.

Roedd sawl tro – yn enwedig pan oeddwn i yn y car am amser hir neu ar ôl ysgol yn eistedd yn ‘stafell ddosbarth wag fy mam (roedd hi’n athrawes) yn aros iddi orffen dysgu ei gwersi nofio ar ôl ysgol – lle cawn fy ngadael am oriau mewn tawelwch llwyr bron, gyda fy meddyliau yn unig yn gwmni. Roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar fy nychymyg i ddiddanu fy hun yn ystod yr adegau hynny. Felly, deuthum yn dda ar ddychmygu pethau – gan greu fy straeon fy hun i geisio llenwi’r tawelwch hwnnw.

Fel plentyn doeddwn i ddim, ar unrhyw gyfrif, yn credu ‘mod i’n ddigon clyfar, yn ddigon da mewn chwaraeon, nac yn edrych yn dda - felly os oeddwn i’n mynd i fod yn hapus a chyflawni rhywbeth byddai’n well i mi ddod o hyd i ryw werth i’r straeon hyn oedd yn llenwi fy mhen. Roeddwn i’n gobeithio efallai petawn i’n medru troi’r straeon hyn yn fy mhen i fod yn rhywbeth diriaethol, efallai y byddai pobl yn fy hoffi ac yn fy neall, ac y byddai’r bwlio’n dod i ben. Ceisiais sawl allfa greadigol, ac ysgrifennu oedd yr un ‘roeddwn i’n lleiaf anobeithiol yn ei wneud. Felly, pan oeddwn i tua deg mlwydd oed dywedais wrth fy rhieni ‘mod i eisiau bod yn awdur, ac rwyf wedi dyfalbarhau ers hynny.

O ran o ble daw fy syniadau – dydw i erioed wedi darganfod yr ateb i hynny yn anffodus. Rydw i wedi ceisio eu cwrso pan fyddant yn fy ngadael i weld ble maen nhw’n dychwelyd, ond rwy’n colli golwg arnynt cyn i mi allu gweld ym mha sefyllfaoedd maen nhw’n ymddangos - er, weithiau, caf gipolwg ar ddrws du yn hofran uwchben pwll dan olau lleuad sy’n llonydd ac yn ddi-dor fel cwarel o wydr. Ond rydw i yn gwybod beth yw sail fy syniadau. Fel arfer, maen nhw’n deillio o ba bynnag bryderon am gyflwr y byd a’r dyfodol sy’n fy nghadw i’n effro am 3 y bore, yn ogystal â chynnwys fy ffrwd Twitter, manylion rhyfeddol o fanwl a chyffredin rydw i wedi dod ar eu traws yn fy mywyd bob dydd, y llwybr troellog o ddiwylliant pop yn fy mhen, pa bynnag lyfr rwy’n ei ddarllen ar y pryd (Cawl gan Sion Owen Thomas yw’r llyfr ar hyn o bryd), ac atgofion poenus o gyfathrebiadau cymdeithasol lletchwith dw’i wedi eu cael sy’n meddiannu fy meddwl o dro i dro ac sy’n gwneud i mi fod eisiau chwydu a chrio. Neu fel hafaliad: A + T + M + P + B + H.

 

Sut fyddech chi’n disgrifio eich gwaith ysgrifennu?
Gwirion. Ond mae rhai darnau difrifol yno hefyd. Rwy’n ceisio cyfuno’r absẃrd a’r rhyfedd gydag is-destun gwleidyddol a sylwebaeth gymdeithasol. Rwy’n credu mai fy mhroses i o feddwl yw, os galla’i dynnu’r darllenydd o realiti a phethau cyffredin bob dydd am gyfnod, gallaf eu cael i weld y pethau hurt rwyf i’n eu gweld.

 

Pa awduron sydd wedi dylanwadu arnoch chi?
Roedd y Metamorphosis gan Franz Kafka yn ddylanwadol iawn arna’i yn y brifysgol. Mae hefyd arna’i ddyled enfawr i Kurt Vonnegut. Mae teitl fy llyfr Bad Ideas\Chemicals yn chwarae ar gysyniad y mae ef yn ei ddefnyddio yn Breakfast of Champions. Rwy’n edmygu ei ymadroddion tafodrydd a sych. Mae’n medru trwytho cymaint o ystyr mewn i gyn lleied o eiriau. Mae hefyd gen i edmygedd parhaus o Murakami, sy’n medru gwneud y pethau breuddwydiol yn ddiriaethol a’r pethau cyffredin yn freuddwydiol mewn modd nad ydw i erioed wedi medru llwyddo ei wneud. Cafodd The Myth of Sisyphus gan Albert Camus hefyd effaith fawr ar fy ngwaith ysgrifennu - yn benodol yn y modd rwy’n ymdrin â diweddglo straeon. 

 

Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ac ydy’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?
Mewn gwirionedd, rwy’n credu mai’r her fwyaf sy’n wynebu awduron heddiw yw’r un her ag sydd wedi wynebu awduron am ganrifoedd - sut mae cynnal yr alwedigaeth sy’n cymryd cymaint o amser, gan hefyd oroesi mewn system faterol nad yw, yn aml iawn, yn gwerthfawrogi’r alwedigaeth honno? Mae ysgrifennu mewn ffordd yn alwedigaeth ryfedd, lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn aml yn beirniadu eich gallu, nid ar eich gwaith ysgrifennu a ph’un ai ydyn nhw’n credu ei fod yn dda, ond p’un ai ydych chi wedi cael budd cymdeithasol neu ariannol o’i herwydd, ac mae’n anodd iawn, o ‘mhrofiad i, i beidio â mewnoli’r ffordd gul, wenwynig honno o edrych ar eich hun a’ch crefft. Gall hynny fod yn niweidiol iawn gan eich gadael yn agored iawn i bobl sy’n barod i ecsbloetio, ac sy’n ysglyfaethu ar yr ansicrwydd hwnnw ac yn gwneud elw ohono. 

Yn anffodus, dwi’n credu bod yr heriau hyn yr un fath nawr â phan ddechreuais ysgrifennu, ac efallai ychydig yn waeth hyd yn oed. Hefyd, mae’r her ychwanegol - os ydych chi’n ysgrifennu dychan ddystopaidd fel dwi’n gwneud - mae digwyddiadau cyfoes yn aml yn rhagori ar y pethau gwaethaf y gallech chi eu dychmygu yn rhesymol. Y ffordd orau i oresgyn hyn, dwi’n credu, yw anwybyddu rhesymeg yn gyfan gwbl wrth ddychmygu pethau. 

 

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?
Byddwn i’n dweud mai’r pethau anoddaf yw delio gyda syndrom imposter ac amheuon mewnol dinistriol, gwneud amser i ysgrifennu hyd yn oed pan fydd eich swydd ddyddiol ac ymrwymiadau eraill yn teimlo’n bwysicach, a thalu rhent. Mae’r gwaith ysgrifennu ei hun yn eithaf hawdd o gymharu, a dim ond ychydig yn amhosib.

 

Pa awdur o Gymru fyddech chi’n ei h/argymell i ddarllenwyr, a pham?
Crystal Jeans. Mae ei gwaith ysgrifennu yn ddoniol, dilys, a grutiog. Hefyd, rwy’n rhentu ‘stafell gan ei Nain, ac os nad ydw i’n dweud pethau neis amdani bydd hi’n codi fy rhent.


Detholwyd Bad Ideas\Chemicals gan Lloyd Markham i Silff Lyfrau 2016–17 - detholiad blynyddol o lyfrau diweddar a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor.

Ail-lansiwyd Bad Ideas\Chemicals yng Nghaerdydd ddiwedd fis Tachwedd, gyda darlleniadau a cherddoriaeth gan Lloyd Markham, Crystal Jeans, Sion Owen Thomas, Sara Arwen, Susie Wild, Deep Hum, Tom Williams, ac Oblong. Mae’r drysau’n agor am 6 gyda'r darlleniadau’n dechrau am 6:30. Mynediad yn £4.

Y Diweddaraf