Bookcase Focus: An interview with Llŷr Gwyn Lewis

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Llŷr Gwyn Lewis

Cyfweliad arbennig gyda Llŷr Gwyn Lewis, un o awduron Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa eleni, wrth iddo baratoi at ei daith i Wŷl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf yn Kiel, Yr Almaen gynhelir rhwng 28 - 31 Mai 2015.

Beth ysbrydolodd chi i fod yn awdur, ac o ble y daw eich syniadau?

Barddoniaeth, yn fwy na dim arall, a’n atynnodd i fel plentyn.  Ymysg dylanwadau cynnar roedd Gerallt Lloyd Owen a Hedd Wyn – rhamant yr holl beth mae’n siŵr. Collais ddiddordeb i raddau yn ystod fy arddegau gan weld barddoniaeth yn rhy rhamantus mewn ryw ffordd neu gilydd.  Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dechrau dychwelyd i archwilio’r syniadau hynny.  Mae arnaf lawer iawn i’n nheulu, fy rhieni, wrth gwrs. Er nad yw Caernarfon, lle magwyd fi, yn ymddangos mor amlwg yn fy ‘sgrifennu a Chaerdydd, ble dwi’n byw bellach, mae yno bob amser, yn y cefndir rhywsut.  Wrth ysgrifennu am le teimlaf bod angen un lleoliad fel angor, ac mae Caernarfon yn angor yn fy rhyddiaith fel ac y mae yn fy mywyd.

Fe fûm i’n ysgrifennu llawer iawn o gerddi serch ar ryw ffurf neu gilydd, ond yn ddiweddar mae ysgrifennu am le wedi dod yn fwy o ddiddordeb.  Mae rhai wedi nodi nad ydw i’n ysgrifennu’n wleidyddol iawn.  Mae gwleidyddiaeth yno yn y cefndir, ond fel nifer o awduron fy nghenhedlaeth, dwi’n ei chael hi’n anodd ymroi i safiad gwleidyddol penodol neu syniadaeth (ar wahân i’r safiad ‘bod yn rhaid i’r Gymraeg fyw’ sy’n nodweddu y rhan fwyaf o ysgrifennu yn y Gymraeg).  Mae eironi ac amwysedd yn haws heddiw.  Mae archwilio’r anhawster neu’r amharodrwydd, fodd bynnag yn medru bod yn dir ffrwythlon ar gyfer ysgrifennu.

Sut fyddech chi’n disgrifio’ch gwaith ysgrifennu?

Distaw, gobeithio.  Er yn ddiweddar dwi wedi teimlo’r angen i weiddi ryw fymryn - cawn weld sut aiff hynny. Dwi’n mwynhau ymroi i ysgrifennu mewn modd metaffisegol efallai - cydio mewn syniad neu gysyniad a cheisio ei ddatblygu i gyfeiriadau penodol.

Pa awduron sydd wedi dylanwadu arnoch?

Yn rhyfedd iawn, darllen gwaith Philip Larkin ddaeth â fi yn ôl at farddoniaeth yn fy arddegau hwyr.  Drwyddo ef y darganfyddais nifer o feirdd eraill, yn ogystal â chanfod fy ffordd yn ôl at farddoniaeth Gymraeg, gan ddisgyn mewn cariad unwaith yn rhagor. Yn y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi mwynhau darllen gwaith beirdd fel Twm Morys, Emyr Lewis ac Iwan Llwyd fel taswn i’n eu darllen am y tro cyntaf – mewn ffordd mae wedi bod yn brofiad amheuthun na fu i mi feddwi ar eu gwaith tra yn yr ysgol.  Roedd darllen Llwybrau gan Myrddin ap Dafydd yn y brifysgol yn ddadlennol iawn i mi o ran posibiliadau’r gynghanedd. Weithiau dwi’n troi at awduron Gwyddelig; mae Yates yn ysbrydoliaeth barhaus. A Bernard O’Donoghue yn fy marn i yw un o’r beirdd gorau sy’n ysgrifennu yn yr iaith Saesneg ar hyn o bryd.

O ran rhyddiaith dwi’n teimlo bod hi’n amhosib gwadu dylanwad W. G. Sebald ar Rhyw Flodau Rhyfel. Ond mae eraill hefyd: Hemingway yn bendant, Milan Kundera, dwi’n hoffi’r troeon rhyfedd, y rhyddmau sy’n llifo’n hir (mewn rhyddiaith a barddoniaeth), a’r modd y gall testun gludo rhywun i le a chyfnod cwbl wahanol.  Pe llwyddwn i gyflawni’r rhain mewn modd boddhaol trwy gyfrwng f’ysgrifennu fy hun, fe fyddwn yn hapus iawn.

Ond yn bwysicach efallai yw bod ystod eang o ysgrifenwyr yn ddylanwad mewn amrywiol ffurf, yn ddibynnol ar yr hyn dwi am ei ddweud a sut dwi am ei ddweud. Mae’r syniad o sefydlu ‘fy llais’ wedi bod yn drech i raddau helaeth, wrth ysgrifennu Rhyw Flodau Rhyfel mewn arddull gweddol hynafol a ffurfiol, ofynodd neb, ‘ydi’r arddull yn gweddu i natur a thôn yr hyn sy’n cael ei drafod?’ yn hytrach fe ddywedwyd, ‘does bosib mai dyma’r ffordd y dylai rhywun yn ei ugeiniau fod yn ysgrifennu.'

Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ydi’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?

Ar lefel bersonol, dwi ar ddechrau fy ngyrfa fel awdur.  Dwi ddim yn adnabyddus, ond mae pobl wedi dechrau wel, darllen fy ngwaith, am fy mod i wedi cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf.  Wedi hynny ddigwydd, mae’r gêm yn newid.  Does yna ddim esgusodion bellach: mae’n ifanc, dyma’i gyfrol gyntaf ac yn y blaen. Yng Nghymru, dwi’n teimlo bod llenyddiaeth wedi chwarae rhan mor ganolog yn niwylliant a hyd yn oed yn ein gwleidyddiaeth fel gwlad, fel bod pwysau rhyfedd ar awduron i ‘ddweud’ rhywbeth.  Wrth gwrs mae bob awdur eisiau gwneud hynny neu fydden nhw ddim yn ysgrifennu. Ond o wybod bod y disgwyliad yno bob amser, pan fo rhywbeth yn digwydd mae disgwyl bron i rywun ddweud rhywbeth, mae’n fraint ond hefyd yn deimlad rhyfedd iawn.  Roedd rhai’n tybio y byddai datganoli yn newid hynny; nid felly y bu yn fy marn i. Os rhywbeth mae wedi gwneud hi’n anoddach. Bellach mae’r cwestiwn i ble y dylai rhywun anelu ei ddicter, neu o leiaf at bwy, neu ar ran pwy y dylid ‘dweud’ rhywbeth, lawer yn fwy aneglur.

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?

Gwneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael.  Dwi’n cwyno’n gyson nad oes gen i amser i ‘sgwennu.  Pan y byddaf yn eistedd i lawr am rai oriau, dwi’n canfod fy hun yn tynnu fy meddwl oddi ar y gwaith ac yn methu canolbwyntio. Y gyfrinach yw ceisio sicrhau bod y ddau yn digwydd ar yr un pryd.  Yn anffodus mae’r dywediad Saesneg, ‘you’re only as good as the last thing you’ve written’, wedi nylanwadau gan greu sefyllfa sydd ddim yn iach ac yn golygu mod i’n aflonydd os nad yw i’n sgwennu’n gyson.  Pe medrwn ddarbwyllo fy hun fod amser ble nad ydw i’n ysgrifennu – yn byw, yn meddwl, yn storio syniadau, a dod i ddeall – yr un mor bwysig â’r weithred o ysgrifennu, os nad yn fwy pwysig, fe fyddwn yn hapusach.

Pa awduron o Gymru fyddech chi’n eu hargymell i ddarllenwyr, a pham?

O ran rhyddiaith ddiweddar yn y Gymraeg, does dim posib canfod cyfrol sy’n fwy cyflawn a meistrolgar na chyfrol Angharad PriceO, Tyn y Gorchudd.  Dwi’n edmygydd mawr o waith Tony Bianchi – awdur sydd ddim wedi derbyn y gydnabyddiaeth mae’n haeddu.

O ran barddoniaeth, cyhoeddwyd dwy gyfrol wych yn y flwyddyn ddiwethaf, gan Rhys Iorwerth (Un stribedyn bach) a Guto Dafydd (Ni Bia’r Awyr). Dyma ddau fardd ifanc sy’n ymgodymu mewn ffyrdd gwahanol a phenodol â’r profiad Cymreig yn yr unfed ganrif ar hugain. Credaf fod y cyfrolau hyn, yn eu ffurf medrus a gwahanol eu hunain, yn cynnig gobaith bod lleisiau newydd ym marddoniaeth Gymraeg, a fydd yn y pendraw yn llwyddo i gamu o gysgodion y genhedlaeth ddiwethaf o feirdd a symud ein barddoniaeth i gyfeiriad newydd, ôl-ddatganoledig.

Yn Saesneg, mae Patrick McGuinness yn fardd ac awdur dawnus ac union. Mae Jilted City yn gyfrol wych o farddoniaeth, ac fe lyncais ei ddwy gyfrol o ryddiaith, The Last Hundred Days ac Other People’s Countries. Dwi hefyd wedi darllen ambell stori fer gan Eluned Gramich ac o’r farn ei bod hi’n hynod dalentog.

 

Detholwyd Rhyw Flodau Rhyfel gan Llŷr Gwyn Lewis i Silff Lyfrau 2014-15 Y Gyfnewidfa.  Detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor yw'r Silff Lyfrau -  darllenwch fwy yma.

Cefnogir taith Llŷr Gwyn Lewis i Wyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf, Kiel, Yr Almaen gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Y Diweddaraf