Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Patrick McGuinness

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Patrick McGuinness

01 Medi 2015

86a71941 aa64 4c7b b5d7 c68b5a1d8307

Bu’r Gyfnewidfa yn cyfweld Patrick McGuinness, un o awduron ein Silff Lyfrau, am ei waith a’i ddylanwadau.

Beth ysbrydolodd chi i fod yn awdur, ac o ble y daw eich syniadau?

Rwy’n ysgrifennu am yr hyn dwi’n ei wybod, neu’n meddwl fy mod i’n gwybod. Ond dim ond drwy ateb yn benodol y gallaf ateb y cwestiwn: daeth fy nofel am Romania a chwymp Comiwnyddiaeth, The Last Hundred Days, i fod gan fod y lle a’r cyfnod yn fy mhlagio, roeddwn i’n awyddus i gyfathrebu llwydni moesol holl gynhwysol bywyd yno bryd hynny; daeth fy nghofiant o mhlentyndod yng Ngwlad Belg, Other People’s Countries, i fodolaeth yn sgil teimlo fod y bywyd yno bryd hynny yn werth ei drysori, hyd yn oed pe byddai hynny mewn geiriau yn unig.

Does gen i ddim rheolau ynglŷn ac ysgrifennu, a dim ymdeimlad o ‘fod yn awdur’ fel hunaniaeth.

Sut fyddech chi’n disgrifio’ch gwaith ysgrifennu?

Fyddwn i ddim yn ei ddisgrifio – fe adawaf hynny i bobl eraill, os ydynt yn dymuno.

Pa awduron sydd wedi dylanwadu arnoch?

O ran barddoniaeth, Thom Gunn ac o ran rhyddiaith JG Farrell.

Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ydi’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?

Mae’n her yntydi? Ysgrifennu yn y lle cyntaf, cyhoeddi eich gwaith, sicrhau darllenwyr, gweld eich gwaith wedi adolygu… ond fyddai pobl ddim yn bwrw ati pe na fyddai boddhad mawr o ysgrifennu, dyna pam fod awduron yn bobl lwcus iawn. Dwi’n dweud hyn fel rhywun sydd ddim yn llawrydd na chwaith yn awdur llawn amser. Mae’r her bryd hynny yn amlwg yn ariannol, ac mae nifer o awduron gwych a hynod lwyddiannus yn cael trafferth caeI dau ben llinyn ynghyd.

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?

Yr uchod i gyd.

Pa awduron o Gymru fyddech chi’n eu hargymell i ddarllenwyr, a pham?

Fe fyddwn yn argymell dau fardd, Lynette Roberts a John Ormond. Roedd gan Roberts ddychymyg di-ffrwyn rhyfeddol, ac yn berson hynod. Mae ei Collected Poems yn arddangos un o’r modernwyr Prydeinig mawr wrth ei gwaith, yn llawn dynoliaeth, dyfeisgarwch, arbrofi a chynhesrwydd. Mae Ormond, yn awdur arall sydd ddim wedi derbyn sylw haeddiannol, roedd yn fardd gosgeiddig, manwl llawn harddwch a chywirdeb deallusol.

Detholwyd Other People’s Countries gan Patrick McGuinness i Silff Lyfrau 2014-15 Y Gyfnewidfa. Detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor yw'r Silff Lyfrau - darllenwch fwy yma.