Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Ruth Richards

Ein Silff Lyfrau: Cyfweliad gyda Ruth Richards

06 Mawrth 2018

Ruth Richards

Bu’r Gyfnewidfa Lên yn cyfweld â Ruth Richards, un o awduron ein silff lyfrau, am ei gwaith a’r dylanwadau arni.

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i fod yn awdur, ac o ble y daw eich syniadau?

Wedi i mi naill ai anwybyddu, neu fethu â gwneud, yr hyn oedd yn ddisgwyliedig ohonof, rhodd canol oed a llai o ddisgwyliadau'r rhyddid i mi wneud yr hyn ‘roeddwn o hyd wedi bod eisiau ei wneud, o’r diwedd - sef ysgrifennu.

Mae syniadau yn ffurfio ac yn datblygu dros gyfnod hir o amser. Clywais hanes Elin Evans (canolbwynt Pantywennol) yn blentyn; rhyfeddais ati hi a’i stori. Yna, anghofiais amdano cyn iddo godi fel obsesiwn ddegawdau’n ddiweddarach. Digon tebyg yw’r broses gyda’r nofel rwy’n gweithio arni ar hyn o bryd, sydd am 5ed Ardalydd Môn.

Sut fyddech chi’n disgrifio eich gwaith ysgrifennu?

Anghenraid - i mi - erbyn hyn.

Pa awduron sydd wedi cael y dylanwad fwyaf arnoch chi?

Mae’n anodd dweud, ac mae mor hawdd benthyg syniadau oddi wrth awduron eraill heb sylweddoli hynny. Wrth ysgrifennu Pantywennol, roeddwn i’n sicr y byddai dylanwad y clasur, Un Nos Ola Leuad, yn amlwg. Fodd bynnag, o ddarllen y drafft cyntaf, roeddwn i’n synnu bod Emily Dickinson wedi ei chael ei hun i mewn i destun Cymreig; fwy na thebyg drwy ddylanwad yr emynwyr Cymreig. Does wybod pwy neu beth fydd yn treiddio i mewn i fy ngwaith ar unrhyw adeg.

Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu awduron heddiw – ac ydy’r heriau hynny wedi newid ers i chi ddechrau ysgrifennu?

Dim ond ers pedair blynedd rwy’n ysgrifennu, ond rwy’n dychmygu bod yr heriau rwy’n eu hwynebu yn rhai oesol: sut i gydbwyso’r amser a’r egni mae’r gwaith yn ei gymryd gyda’r arian rwy’n ei ennill, yr ofn o gael adolygiad gwael, a’r posibilrwydd o weld eich gwaith yn y bin bargen.

Beth yw’r peth anoddaf a’r peth hawsaf am fod yn awdur?

Y peth anoddaf oedd mentro ysgrifennu; herio’r dybiaeth y byddai pobl yn credu fod gen i rywbeth i’w ddweud, pan nad oedd gen i mewn gwirionedd. Dydw i dal ddim yn sicr os yw hynny’n wir, ac mae’n bosib nad fy lle i ydy beirniadu; ond, er mor amlwg yw hyn, yr unig ffordd i rannu unrhyw beth sydd gan unrhyw un i’w ddweud, yw drwy’r broses o’i ddweud neu ei ysgrifennu.
Y peth hawsaf yw’r ysgrifennu ei hun, pan fod gen i syniad clir ac rwy’n gwybod i ble mae’n mynd.

Pa awdur o Gymru fyddech chi’n ei h/argymell i ddarllenwyr, a pham?
Byddwn i’n awgrymu bob un ohonom: rydyn ni angen y sylw; ac ni fyddwn yn gwastraffu eiliad o’ch amser.

Detholwyd Pantywennol gan Ruth Richards i Silff Lyfrau 2017-18 - detholiad blynyddol o lyfrau diweddar a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer cyfieithu dramor.