27 Chwefror 2014
"I mi cyfieithu llenyddol yw un o’r ffyrdd gorau o ddod i ddeall llenyddiaeth ar y lefel ddyfnaf. Mae’n gyfle gwych i ddarganfod iaith a’r diwylliant mae’n tyfu ohono. Pam fy mod i’n cael fy nhynnu i gyfieithu llenyddiaeth Gymraeg? Yn bennaf oherwydd fy niddordeb hirhoedlog yn yr iaith Gymraeg, ei chyfoeth a’i hamrywiaeth. Mae darganfod llenyddiaeth Cymru yn brofiad neilltuol, yn debyg iawn i ddarganfod trysor cudd sy’n agor y drws ar fyd arall, sydd mor agos ond eto’n gwbwl ddieithr. Mae’n brofiad y carwn rannu gyda phobl eraill fy ngwlad, ble nad yw llenyddiaeth o Gymru eto’n adnabyddus.
I ddyfynnu Ryszard Kapuściński: 'mae cyfieithu testun yn agor i eraill ddrws ar fyd arall, fe’i dehonglwn, fe'i heglurwn, a thrwy hynny, ei wneud yn hygyrch, yn agosach ac yn rhan o’n profiad personol”. Heddiw, gyda Gwlad Pŵyl a Chymru yn aelodau o’r gymuned Ewropeaidd a nifer cynyddol o bobl o wlad Pŵyl yn byw yng Nghymru, mae’n hanfodol sicrhau gwell dealltwriaeth rhwng y ddwy genedl. Yn sgil y datblygiadau diweddar, mae ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth ddiwylliannol o fewn Prydain yn cynyddu ymysg Pwyliaid sy’n fwy a mwy awyddus i ddysgu am ddiwylliant tu hwnt i’r brif ffrwd Saesneg. Ni ddylid anghofio am Gymru a’i thraddodiad llenyddol unigryw; fe fyddai’n fraint i mi gael rhannu hynny gyda'r Pwyliaid a’u gwneud yn ymwybodol o elfennau cyffredin ond anghofiedig ein treftadaeth Ewropeaidd.
Yn y llun: Marta Klonowska yng nghwmni Sally Baker a Menna Baines wrth gael eu croesawu ar aelwyd hen gartref i Caradog Prichard ym Methesda.