Galwad am geisiadau: Ulysses' Shelter 2021

Galwad am geisiadau: Ulysses' Shelter 2021

02 Chwefror 2021

IMG 20200202 143141 2 3

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau nawr ar agor ar gyfer ail flwyddyn y rhaglen ULYSSES’ SHELTER’, sef prosiect a gefnogir gan Ewrop Greadigol/Creative Europe sydd yn cynnig cyfleon preswyl i awduron a chyfieithwyr dan 40 o Gymru, Croatia, Gwlad Groeg, Serbia a Slofenia.

Mae ULYSSES’ SHELTER: ADEILADU RHWYDWAITH AWDURON PRESWYL yn ail gam o brosiect a gyd-ariennir gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd gyda’r nod o greu rhwydwaith o breswyliadau cyfnewid llenyddol yn Ewrop wedi eu cynllunio’n bennaf ar gyfer awduron (rhyddiaith/barddoniaeth) a chyfieithwyr llenyddol ifainc. Arweinir y prosiect gan Sandorf (cyhoeddwr ac asiantaeth lenyddol yng Nghroatia) ac mae’r prosiect yn cael ei weithredu yng Nghymru gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Y partneriaid eraill yw Krokodil (Belgrad, Serbia), Thraka (Gwlad Groeg) a Chymdeithas Awduron Slofenia (Ljubljana, Slofenia).

Cynhelir dwy raglen o weithgareddau i’r preswylwyr dewis yn ystod eu preswyliad, naill ai rhaglen byw neu rhaglen digidol: cynhelir y preswyliadau byw ar ynys Mljet (Croatia), yn Ljubljana (Slofenia), yn Larissa (Gwlad Groeg), yn Belgrad (Serbia) ac mewn sawl lleoliad yng Nghymru tra bydd y preswyliadau digidol yn cysylltu’r preswylwyr gyda’r rhwydwaith rhyngwladol yma mewn gweithgareddau ar-lein/awduron a chyfieithwyr ifanc. Bydd rhaglen y preswyliadau yn canolbwyntio ar symudedd rhyngwladol ac ar ddatblygu cynulleidfaoedd ac fe fydd yn rhoi cyfleoedd i awduron a chyfieithwyr ifanc i gael gweithio, perfformio a chyflwyno eu hunain mewn gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol gwahanol. Bydd y preswyliadau yn dod a chyfleoedd a phosibiliadau newydd i eraill fel rhan o’r prosiect, yn awduron, cyfieithwyr, golygyddion, cyhoeddwyr a/neu gynrychiolwyr o gyrff llenyddol yn Nghymru, Croatia, Slofenia, Serbia a Gwlad Groeg. Yn ogystal, bydd rhaglen sylweddol o weithgareddau llenyddol wedi eu hanelu at grwpiau targed (lleol) er mwyn cyfoethogi’r preswyliadau. Tra bod yr opsiwn preswyliad rhithiol yn angenrheidiol ar gyfer y sefyllfa Covid presennol ledled Ewrop, mae hefyd yn gyfle da i awduron a chyfieithwyr llenyddol na fyddent fel rheol yn gallu teithio neu dreulio pythefnos i ffwrdd o gartref ond a hoffai gael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen ryngwladol a cyfnewid llenyddol gydag awduron eraill a byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o'r categori hwn. Rydym yn benodol yn croesawu ceisiadau gan awduron/cyfieithwyr ifanc o gymunedau Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Thema ail flwyddyn prosiect Ulysses Shelter 2 i’r preswylwyr a ddewisir fydd myfyrio ar heriau’r pandemig a sut mae awduron yn defnyddio hunan-ynysu. Mae nifer o awduron yn ynysu er mwyn cynhyrchu gwaith llenyddol a, gyda chymdeithas yn gyffredinol bellach yn gorfod hunan-ynysu, mae’n bosib nad yw rhai awduron wedi cael cyfle i ganolbwyntio ar eu gwaith, neu efallai bod eu profiadau blaenorol o ynysu wedi eu gwneud yn fwy gwydn a hyblyg i’r amodau gweithio presennol. Gwahoddir y preswylwyr i fyfyrio ac i ymateb i’r ffenomen o ynysu a gwaith creadigol drwy gyfrannu eu profiadau cyn-Covid a’r cyfnod clo.