Dyfarnu Richard Gwyn yn Lysgennad Cymru Greadigol

Dyfarnu Richard Gwyn yn Lysgennad Cymru Greadigol

10 Chwefror 2014

RG by Andrew Jeffrey

Gan adeiladau ar y cydweithio a welwyd drwy Gadwyn Awduron America Ladin yn 2013, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn edrych ymlaen i gefnogi Richard Gwyn yn dilyn ei ddyfarnu’n Llysgennad Cymru Greadigol gan Gyngor y Celfyddydau.

Fe fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Club de Traductores Literarios de Buenos Aires, ac yn cefnogi partneriaid yn Universidad Austral, Validivia, Chile; Gwyl Farddoniaeth Ryngwladol Medellín a Los Torreones yng Ngholombia; a’r Periódico de Poesía, yn Universidad Nacional Autónoma de México, Dinas Mexico. Fe fydd barddoniaeth o Gymru wedi ei gyfieithu’n derbyn sylw gan Los Torreones yng Ngholumbia a’r Periódico de Poesía yn Ninas Mexico.

Meddai Richard Gwyn: "Mae teithiau modern yn aml yn deffro ymdeimlad o ‘deithio heb weld’ yn y teithiwr, syniad unigryw o gyfoes efallai. Mae 'Y Daith Anorffenedig', teitl fy mhrosiect, yn awgrymu yn hytrach na chanolbwyntio ar bwyntiau sefydlog y cyrraedd a’r ymadael, bod pob taith yn ddi-dor, ac mae’r unig nod dilys yw cynnal tensiwn cywrain y daith anorffenedig. Nod fy mhrosiect yw ymchwilio ac ysgrifennu am y broses o deithio fel gwaith ar droed. Fe fydd argraffiadau yn ymddangos gyntaf fel dyddiadur ar fy mlog, wedi ei hysgrifennu gan fy hunan arall, Ricardo Blanco, wrth i ni deithio America Ladin yn chwilio am ei chrwydriaid a’i beirdd. Ond dim ond rhan o’r naratif fydd hyn. Fe fydd y prosiect hefyd yn mynd a ni drwy deithiau’r gorffennol, yn ogystal ac ar hyd America Ladin hynod bersonol y cof a’r dychymyg.”

Mae ‘Y Daith Anorffenedig’ yn gysylltiedig ag ymbaratoi at antholeg Richard o farddoniaeth America Ladin sydd ar y gweill gan Lyfrau Seren (ond hefyd yn rhywbeth ar wahân) a Fiction Fiesta sydd a’i gartref yng Nghaerdydd ac mae'n adeiladu ar berthnasau â chyfeillion o awduron a chynghreiriau â sefydliadau diwylliannol ar draws America Ladin.

Gwobrwyir dyfarniadau Llysgennad Cymru Greadigol trwy enwebiad ac maent yn cydnabod llwyddiant unigol arwyddocaol ym myd y celfyddydau ynghyd â'r nod o godi proffil diwylliant Cymru y tu hwnt i'w ffiniau. Mae pob gwobr werth £25,000. Dyfarnwyd y ddwy wobr arall mewn seremoni arbennig ar Chwefror 6ed i Julia Griffiths Jones a Martin Daws.

Noddir Y Daith Anorffenedig gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Club de Traductores Literarios de Buenos Aires, yr Ariannin, gyda phartneriaid sy'n ei gefnogi yn Chile, Colombia a Mecsico.