Cynan Jones at the Gudalajara International Bookfair

Cynan Jones yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Gudalajara

Fe fydd Cynan Jones yn dathlu cyhoeddi La tejonera, cyfieithiad Sbaeneg o’i gyfrol, The Dig, yn Ffair Lyfrau Rhyngwladol Guadalajara, Mecsico, y farchnad fwyaf ar gyfer cyhoeddiadau Sbaeneg, ar Ragfyr 1af 2014.

Detholwyd cyfrol Cynan Jones, The Dig, i Silff Lyfrau 2014 - 2015 a ddatgelwyd yn llawn gan Y Gyfnewidfa yn Ffair Lyfrau Frankfurt eleni. Detholiad o gyfrolau yw'r Silff Lyfrau, a gaiff ei hyrwyddo yn rhyngwladol gan agor y drws ar y cyfoeth llenyddol sydd gan Gymru i'w gynnig i'r byd.

Yn ystod ei ymweliad a Ffair Lyfrau Gudalajara, fe fydd Cynan Jones hefyd yn cynnal gweithdy yn Preparatoria de Tonalá Norte ac yn trafod ei waith mewn digwyddiad arbennig gyda’r awduron, Antoine Volodine (Ffrainc), Sasja Janssen (Yr Iseldiroedd), Leena Parkkinen (Ffindir) fel rhan o Wyl Lenyddiaeth Ewrop y ffair lyfrau. Dyma’r eildro i’r Gyfnewidfa gydweithio gyda Ffair Lyfrau Gudalajara. Yn 2012, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, bu’r bardd Owen Sheers yno yn lansio cyfieithiadau Sbaeneg o’i waith gan y bardd a'r nofelydd adnabyddus Andrés Neuman.

Cefnogir taith Cynan Jones a Ffair Lyfrau Rhyngwladol Guadalajara gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Deunydd perthynol

Y Diweddaraf