Cynan Jones yn aros am ddyfarniad gwobr

Cynan Jones yn aros am ddyfarniad gwobr

19 Mawrth 2013

Edrychwn ymlaen at ddydd Gwener yr 22ain o Fawrth gyda chyhoeddi enillydd gwobr Sunday Times EFG Private Bank Short Story Award. Mae Cynan Jones o Aberaeron ar y rhestr fer o chwech, ochr yn ochr ag Ali Smith a Sarah Hall, enillydd gwobr y Pulitzer, Junot Diaz, Mark Haddon, awdur The Curious Incident of the Dog in the Night-Time a'r nofelydd, Toby Litt. Bydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu yng ngŵyl The Sunday Times Oxford Literary Festival. Dyma'r wobr fwyaf - £30,000 - ar gyfer un stori fer.