Cyfieithiad Portiwgaleg o nofel Cynan Jones

Cyfieithiad Portiwgaleg o nofel Cynan Jones

09 Chwefror 2016

A COVA CAPA

Mae nofel ddiweddaraf Cynan Jones, The Dig, eisoes wedi ei chyfieithu i’r Almaeneg, Sbaeneg, a'r Dyrceg, ac mae hi bellach ar gael yn yr Iseldireg hefyd. Cyhoeddwyd De burcht, sy'n gyfieithiad gan Jona Hoek, ym mis Rhagfyr gan wasg Koppernik.

Erbyn hyn, mae cyfieithiad arall i’w ychwanegu at y casgliad. Cyhoeddwyd A Cova, cyfieithiad Portiwgaleg o’r nofel gan wasg Cavalo de Ferro yn Lisbon gyda chefnogaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru. Dewiswyd The Dig (Granta, 2014) yn un o’r llyfrau i ymddangos ar ein Silff Lyfrau yn 2014, y flwyddyn honno enillodd y nofel wobr Jerwood Fiction Uncovered Prize 2014, a daeth i’r brig yng nghategori ffuglen Llyfr y Flwyddyn yn 2015. Cafodd y nofel ei chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau yn 2015 gan Coffee House Press.

Magwyd Cynan Jones yn Aberaeron lle mae’n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd. Dechreuodd gyhoeddi ei nofelau cyntaf gyda gweisg Parthian a Seren cyn symud ymlaen i gyhoeddi ei nofel ddiweddaraf gyda Granta yn Llundain. Mae Granta eisoes wedi ailargraffu ei ddwy nofel gyntaf, a’r wasg honno fydd hefyd yn cyhoeddi ei nofel nesaf, Cove, yn Hydref 2016.