Cynan Jones ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2017

Cynan Jones ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2017

21 Medi 2017

Cynan Jones1

Mae’r awdur Cynan Jones wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2017.

Sefydlwyd y wobr yn 2005 er mwyn codi ymwybyddiaeth o ffurf y stori fer. Mae’r wobr gyntaf gwerth £15,000, a chaiff y pedwar awdur arall sydd ar y rhestr fer £600 yr un.

Dan gadeiryddiaeth y nofelydd Joanna Trollope, mae’r panel beirniadu eleni yn cynnwys Eimear McBride sydd wedi ennill Gwobr Baileys; Jon McGregor sydd wedi bod ar restr hir Gwobr Booker, Sunjeev Sahota sydd wedi ennill Gwobr Encore; a Di Speirs sy’n Olygydd Llyfrau gyda’r BBC ac yn un o feirniaid y wobr hon ers iddi gael ei lansio.

Mae stori fer Cynan Jones, ‘The Edge of the Shoal’, yn delynegol ac yn llawn tensiwn am drip pysgota a aiff o chwith. Yn sail i’r stori y mae’r awydd i oroesi ar y moroedd, a sylweddoli colled. Mae Cynan Jones eisoes wedi cyhoeddi pum nofel ac mae nifer o’i weithiau wedi eu cyfieithu.

Dewiswyd y straeon byrion isod o dros 600 o gynigion eleni:

  • ‘Murmur’ gan Will Eaves;
  • ‘The Waken’ gan Jenni Fagan;
  • ‘The Edge of the Shoal’ gan Cynan Jones;
  • ‘The Collector’ gan Benjamin Markovits;
  • ‘If a book is locked there’s probably a good reason for that, don’t you think?’ gan Helen Oyeyemi

Darlledwyd y straeon ar BBC Radio 4, a gellir clywed stori Cynan Jones yma.

Cyhoeddir yr enillydd yn fyw ar raglen ‘Front Row’ ar BBC Radio 4 ar y 3ydd o Hydref am 7.15pm.